<p>Arddangosfeydd Symudol o Anifeiliaid </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 12 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:59, 12 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Credaf fod y ffordd y mae cymdeithas yn trin ei hanifeiliaid yn dweud llawer amdani, ac rwyf newydd fod draw—. Roeddwn yn falch iawn o noddi digwyddiad yr RSPCA i gyflwyno gwobrau am waith cymunedol sy’n digwydd ar draws ein sector cyhoeddus mewn perthynas â lles anifeiliaid, ac mae’n amlwg ein bod yn genedl sy’n hoff o anifeiliaid. Nid wyf wedi ystyried y posibilrwydd o gyflwyno un ddeddf. Fel y soniais yn fy ateb blaenorol i Bethan Jenkins, rwy’n edrych ar y codau ymarfer, beth sydd angen ei adolygu, beth sydd angen ei ddiweddaru, ac yn sicr, gallwn eu monitro. Byddwch wedi clywed fy ateb cynharach i Lynne Neagle ynglŷn ag anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau ac arddangosfeydd symudol o anifeiliaid, oherwydd credaf ei fod yn faes nad ydym yn gwybod llawer amdano, a hoffwn yn fawr weld gwaith sylweddol yn cael ei wneud yn y maes hwnnw.