Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 12 Hydref 2016.
Mi fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol o’r penderfyniad gan y Grid Cenedlaethol i roi gwifrau mewn twnnel o dan y Fenai. Rydym yn gobeithio gweld pont newydd yn cael ei chodi i ddeuoli pont Britannia; rwy’n siŵr y byddai’r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno â fi y bydd yna lai o impact amgylcheddol o roi gwifrau ar y bont honno yn hytrach na chodi pont a thyrchu twnnel. Ond hefyd, os ydy’r grid yn mynd am opsiwn y twnnel rhag niweidio amgylchedd naturiol gweledol ardal y Fenai, onid ydy’r un peth yn wir am yr angen i warchod amgylchedd naturiol gweledol Ynys Môn drwy danddaearu ar draws yr holl ynys?