1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 12 Hydref 2016.
9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith amgylcheddol cynlluniau’r Grid Cenedlaethol ar draws Ynys Môn? OAQ(5)0050(ERA)[W]
Mae nifer o ofynion statudol ar waith er mwyn sicrhau bod y Grid Cenedlaethol yn ystyried effaith amgylcheddol ei argymhellion ar draws Ynys Môn. Agorodd y Grid Cenedlaethol ei ymgynghoriad diweddaraf yr wythnos diwethaf ar brosiect cysylltu gogledd Cymru i gysylltu Wylfa Newydd â’r grid presennol.
Mi fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol o’r penderfyniad gan y Grid Cenedlaethol i roi gwifrau mewn twnnel o dan y Fenai. Rydym yn gobeithio gweld pont newydd yn cael ei chodi i ddeuoli pont Britannia; rwy’n siŵr y byddai’r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno â fi y bydd yna lai o impact amgylcheddol o roi gwifrau ar y bont honno yn hytrach na chodi pont a thyrchu twnnel. Ond hefyd, os ydy’r grid yn mynd am opsiwn y twnnel rhag niweidio amgylchedd naturiol gweledol ardal y Fenai, onid ydy’r un peth yn wir am yr angen i warchod amgylchedd naturiol gweledol Ynys Môn drwy danddaearu ar draws yr holl ynys?
Bydd angen i’r Grid Cenedlaethol gwblhau asesiad o’r effaith amgylcheddol. Mae angen iddynt fod yn sensitif iawn i’r amgylchedd, ac mae hynny’n cynnwys llinellau o dan y Fenai, o ganlyniad i ddynodiadau tir penodol. Bydd y Prif Weinidog yn cyfarfod â phrif weithredwr newydd y Grid Cenedlaethol yr wythnos nesaf i drafod y gwaith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd, a bydd hynny’n cynnwys trafodaethau ynghylch croesfannau’r Fenai.
Lansiodd y Grid Cenedlaethol ymgynghoriad ar leoliad arfaethedig peilonau a thwnnel o dan y Fenai ar 5 Hydref, a bydd yn mynd rhagddo tan 16 Rhagfyr. Rwy’n siŵr y gwnewch ymuno â mi i annog y trigolion lleol i ymateb i’r ymgynghoriad hwnnw. Ond sut y bwriadwch fynd i’r afael â phryderon a fynegwyd gan grŵp Pylon the Pressure yng ngogledd Cymru fod geiriad dogfen bolisi nodyn cyngor technegol 8 Llywodraeth Cymru, fod gosod ceblau foltedd uchel o dan y ddaear fel arfer 6-20 gwaith yn fwy drud na system ar bolion yn, a dyfynnaf, ‘anghywir ac yn gamarweiniol’?
Byddwn yn annog pawb sydd â diddordeb yn y maes hwn i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Yn amlwg, penderfyniad ar gyfer Llywodraeth y DU yw cydsynio i brosiect atgyfnerthu’r Grid Cenedlaethol yng ngogledd Cymru, felly er ein bod yn rhan o’r trafodaethau, fel y dywedais, mater i Lywodraeth y DU yw gwneud hynny.