<p>Y Grid Cenedlaethol (Ynys Môn)</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 12 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:05, 12 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Lansiodd y Grid Cenedlaethol ymgynghoriad ar leoliad arfaethedig peilonau a thwnnel o dan y Fenai ar 5 Hydref, a bydd yn mynd rhagddo tan 16 Rhagfyr. Rwy’n siŵr y gwnewch ymuno â mi i annog y trigolion lleol i ymateb i’r ymgynghoriad hwnnw. Ond sut y bwriadwch fynd i’r afael â phryderon a fynegwyd gan grŵp Pylon the Pressure yng ngogledd Cymru fod geiriad dogfen bolisi nodyn cyngor technegol 8 Llywodraeth Cymru, fod gosod ceblau foltedd uchel o dan y ddaear fel arfer 6-20 gwaith yn fwy drud na system ar bolion yn, a dyfynnaf, ‘anghywir ac yn gamarweiniol’?