<p>Cefnogi Arfordir Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 12 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 2:06, 12 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Er, mae’n rhaid i mi gyfaddef mai arfordir byr iawn sydd yna yn fy etholaeth, sef safle picnic Black Rock—[Chwerthin.]—safle rwy’n ei fwynhau, rwy’n siŵr y byddwch yn cytuno fod arfordir Cymru yn eiddo i bob un ohonom. Mae llawer o fy etholwyr yn mwynhau ymweld â’r arfordir mewn ardaloedd eraill yng Nghymru. Yn ddiweddar, mynychais ddigwyddiad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn y Senedd ar arfordir Cymru, ac yn y digwyddiad hwnnw bûm yn trafod gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol y ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i ddatblygu eu buddiant yn arfordir Cymru. A allwch ddweud wrthym pa drafodaethau, os o gwbl, a gawsoch gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ynglŷn â blaenoriaethau ariannol ar gyfer diogelu ein harfordiroedd? A ydych yn dal i lynu at y polisi o gilio a reolir y credai llawer o’ch rhagflaenwyr ynddo, yn hytrach na chynnal ac amddiffyn ein harfordir yn briodol mewn gwirionedd rhag bygythiadau erydu a chynhesu byd-eang ?