Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 12 Hydref 2016.
Roeddwn yn meddwl hynny pan welais y cwestiwn, ond gwn fod yna fuddiannau ynghlwm wrth y peryglon arfordirol yn Sir Fynwy, ac rwy’n cytuno â chi am safle picnic Black Rock. Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau penodol gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ynglŷn â’r mater hwn, ond byddaf yn edrych i weld a yw fy swyddogion wedi cael trafodaethau o’r fath, ac yn ysgrifennu at yr Aelod.