Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 12 Hydref 2016.
Diolch. Mae ailgylchu yng Nghymru wedi bod yn llwyddiant, er bod rhai awdurdodau lleol yn y de-ddwyrain yn wynebu heriau. Mae tri awdurdod lleol wedi methu â chyrraedd y targed ailgylchu ar gyfer 2015-16. Gofynnwyd i bob awdurdod esbonio pam nad ydynt wedi llwyddo i gyrraedd y targed, a byddaf yn ystyried yr esboniadau hyn.