Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 12 Hydref 2016.
Rwy’n ddiolchgar i’r Ysgrifennydd am yr ateb hwnnw. Fel mae hi’n ei ddweud, mae amrywiaeth ymhlith yr awdurdodau lleol o ran eu perfformiad gydag ailgylchu. Yn sgil datganiadau’r Llywodraeth ynglŷn â dyfodol llywodraeth leol yng Nghymru, gyda chydweithio a hyd yn oed rhanbartholi, efallai, yn digwydd, a yw hi’n rhagweld yn y dyfodol agos y bydd prosiectau ailgylchu yn digwydd ar lefel ranbarthol, neu efallai hyd yn oed yn genedlaethol, yn hytrach na chael amrywiaeth o awdurdod i awdurdod?