Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 12 Hydref 2016.
Mae lles anifeiliaid yn ganolog i god ymarfer Llywodraeth Cymru ar gyfer maglau. Cyhoeddwyd y cod y llynedd ac mae’n rhoi arweiniad clir ar y modd y caiff maglau llwynog eu defnyddio a’u harolygu. Byddwn yn barod i ystyried rhoi camau pellach ar waith, os yw’r cod yn profi’n aneffeithiol.