Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 12 Hydref 2016.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb calonogol. Rwy’n siŵr ei bod yn ymwybodol fod mwy na 1,000 o anifeiliaid anwes ac anifeiliaid gwyllt yn cael eu dal mewn maglau bob dydd yng Nghymru, a chaiff 370,000 o anifeiliaid eu dal mewn maglau bob blwyddyn, yn ôl ffigurau gan y Gynghrair yn Erbyn Chwaraeon Creulon. Mae’r farn gyhoeddus yn amlwg o blaid gwaharddiad. Felly, a gaf fi ei hannog i weld sut y mae’r cod ymarfer yn gweithredu mewn gwirionedd? Yn sicr, mae galw cyhoeddus am wahardd maglau, felly a wnaiff hi edrych ar hynny, os gwelwch yn dda?