Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 12 Hydref 2016.
Yn gyntaf oll, Weinidog, a gaf fi dynnu sylw at lwyddiant y gorlifdir yn Ynysforgan, sydd yn fy etholaeth, a hanner milltir yn unig o ble rwy’n byw? Mae’n ardal a arferai fod dan lawer iawn o lifogydd dros gyfnod o amser, ond mae hynny bellach wedi dod i ben oherwydd bod y gorlifdir wedi gweithio mor llwyddiannus. A oes cynlluniau i gyflwyno gorlifdiroedd ar gyfer afonydd eraill, fel y gallant gael y budd a gawn yn Ynysforgan?