Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 12 Hydref 2016.
Diolch i Mike Hedges. Mae bob amser yn dda cael adborth cadarnhaol ar sut y mae ein cynlluniau llifogydd yn perfformio, ac rwy’n credu bod y cynllun £7 miliwn yn Abertawe yn enghraifft o sut y gall buddsoddiad llifogydd sicrhau manteision lluosog, ac yn sicr, ar ôl edrych arno, mae’n sicrhau manteision i fioamrywiaeth, er enghraifft, a gwelliannau i amwynderau.