Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 12 Hydref 2016.
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn atodol pwysig. Roedd yr adroddiad gan y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru yn cynnwys camau rydym yn eu cymryd, nid yn unig ar gyfer rhai sy’n gadael gofal, ond ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yn fwy cyffredinol—camau a gymerwyd eisoes yn unol ag argymhellion yr adroddiad, er enghraifft: datblygu fframwaith llety ar gyfer rhai sy’n gadael gofal, fel y dywedais, a byddaf yn ei lansio ar 19 Hydref, ac yn parhau â’n hymgyrch i weithredu er mwyn dileu’r defnydd o lety gwely a brecwast ar gyfer pobl ifanc drwy gryfhau canllawiau, cydweithio, a threfniadau gwirfoddol newydd, a dyma fydd y dystiolaeth a’r gwelliannau sydd eu hangen.