<p>Tai Fforddiadwy ar gyfer Pobl Ifanc sy’n Gadael Gofal</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 12 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:17, 12 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, ddoe fe fynychoch chi a minnau fforwm i bobl ifanc a drefnwyd gan y comisiynydd plant ar gyfer rhai rhwng 15 a 24 oed sydd â phrofiad o ofal, a daeth neges glir o’r fforwm nid yn unig fod angen help ar rai sy’n gadael gofal i ddod o hyd i lety fforddiadwy, ond maent hefyd angen cymorth i gadw eu llety. Mewn adroddiad diweddar gan Gymdeithas y Plant, cafwyd galwad i eithrio pobl sy’n gadael gofal rhag gorfod talu’r dreth gyngor hyd nes eu bod yn 25 oed. Nawr, er bod yr alwad honno’n canolbwyntio ar Loegr, rwy’n siŵr y gallwn weld beth fyddai’r manteision posibl yma yng Nghymru. Yn sicr, byddai’n rhoi hwb mewn gwirionedd i’r cynlluniau llwybr sy’n ofynnol er mwyn paratoi pobl sy’n gadael gofal ar gyfer gweddill eu bywydau. Felly, a yw hynny’n rhywbeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn barod i ystyried?