Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 12 Hydref 2016.
Diolch. Ddoe, fe ddywedoch wrthym eich bod yn dymuno dirwyn y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf i ben, ac y byddwch yn edrych o’r newydd ar sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi cymunedau cryf wedi’u grymuso gyda llais cryf yn y penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd. Rhennais lu o enghreifftiau gyda chi o sefydliadau yn y sector statudol a’r trydydd sector lle maent yn bwrw ati i wneud i bethau ddigwydd ar lawr gwlad drwy ddefnyddio cydgynhyrchu, nad yw’n ymwneud â chaledi, ond sy’n rhan o chwyldro byd-eang gyda’i wreiddiau’n estyn yn ôl bron hanner canrif. O gofio bod y prosiectau hyn eisoes yn helpu i adeiladu cymunedau cryf yng Nghymru, a allwch roi eich diffiniad o beth y mae cydgynhyrchu yn ei olygu?