Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 12 Hydref 2016.
Wel, cyfeiriaf at fy natganiad ddoe y mae’r Aelod wedi dyfynnu ohoni. Rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni gael cynnig newydd ar gyfer mynd i’r afael â materion i wneud cymunedau’n gryf ar gyfer y dyfodol. Dyna a amlinellais ddoe yn fy natganiad. Mae cyflwyno’r 100,000 o swyddi prentisiaeth newydd gan y Llywodraeth Lafur hon yn un mater pwysig i gymunedau y mae’n ei rannu, ac rwy’n ei rannu hefyd. Mae gofal plant o ansawdd, sef y cynnig gorau i rieni sy’n gweithio yn unrhyw le yn y DU, yn rhywbeth rwy’n gobeithio y bydd yn ymuno â mi i’w ddathlu wrth wasanaethu’r cyhoedd a gynrychiolwn.
Mae yna lawer o opsiynau lle mae angen i ni fynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi a galluogi er mwyn cymunedau’r dyfodol. Mae hyn yn rhywbeth a nodais yn fy natganiad, a byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau yn y flwyddyn newydd.