Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 12 Hydref 2016.
Mae cydgynhyrchu yn galluogi dinasyddion a gweithwyr proffesiynol i rannu grym a gweithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth gyfartal, gan greu cyfleoedd i bobl gael cymorth pan fyddant ei angen a chyfrannu at newid cymdeithasol, gan gydnabod bod pawb yn arbenigwyr yn eu bywydau eu hunain.
Ddoe hefyd dyfynnais Oxfam Cymru pan ddywedasant fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau newid parhaol, gan ymgorffori dull bywoliaeth gynaliadwy ym mhob polisi a gwasanaeth yng Nghymru, sy’n golygu helpu pobl i adnabod y cryfderau a’r asedau sydd ganddynt eisoes er mwyn mynd i’r afael â’r broblem ganolog sy’n eu hatal rhag cyrraedd eu potensial.
O ystyried, unwaith eto, fod y dull hwn wedi cael croeso gan rai o Aelodau Llywodraeth Cymru ac y dylai fod yn ganolog i ddatblygu a chyflwyno rhaglenni newydd, a allwch ddweud beth yw eich dealltwriaeth o ystyr y term ‘dull seiliedig ar gryfderau’?