Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 12 Hydref 2016.
Diolch. Roeddwn yn falch yr wythnos diwethaf o allu mynychu agoriad dwy ardal chwarae hygyrch yn fy etholaeth, yng Nghilfynydd a Glyn-coch. Yn y ddau achos, gwnaed gwelliannau o ganlyniad i ymgyrchoedd cymunedol a gafodd gefnogaeth dda a buddsoddiad i’w groesawu’n fawr gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae Erthygl 31 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn nodi hawl i chwarae. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â phartneriaid, fel awdurdodau lleol, er mwyn sicrhau bod ganddynt ardaloedd chwarae sy’n hygyrch i bob plentyn?