<p>Mynediad i Chwarae</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 12 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 2:32, 12 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Weinidog, yn amlwg, un o brif elfennau iechyd y cyhoedd yw codi lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon yng Nghymru, ac i bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau iach, ble bynnag y maent. Mae’n amlwg mai o’r pethau sy’n achosi trafferth i nifer o glybiau chwaraeon ar draws fy rhanbarth, sef Canol De Cymru, yw ffioedd lleiniau a ffioedd am gyfleusterau. Rwy’n sylweddoli mai mater i lywodraeth leol yw hwn, ond bron nad oes gennych amcan polisi yn y fan hon sy’n gwrthdaro â phenderfyniadau a wneir yn neuadd y sir.

Rydym yn deall bod yn rhaid cael ffi am fod y cyfleusterau hyn yn costio, ond yr hyn sy’n peri pryder yw’r ffaith fod llawer o’r clybiau hyn yn nodi enghreifftiau mewn ardaloedd eraill lle mae’r costau’n wahanol, yn aml iawn o fewn ardal yr un awdurdod lleol. Sut rydych yn gweithio gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet i ddatblygu polisi mwy cydlynol sy’n cysylltu’r negeseuon iechyd cyhoeddus â chyfranogiad cymunedol, ac yn benodol, â ffioedd llywodraeth leol am gyfleusterau cymunedol?