<p>Cynlluniau Adfywio Tai</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 12 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:33, 12 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n siŵr y byddwch yn ymwybodol o raglen tai ac adfywio strategol Cyngor Sir y Fflint, y gyntaf o’i bath yng Nghymru i arloesi gyda chynlluniau buddsoddi uchelgeisiol mewn tai. Mae’r cyngor wedi arwain drwy esiampl ar sut i fynd i’r afael â phrinder tai, gan gynnwys adeiladu tai cyngor newydd am y tro cyntaf mewn nifer fawr o flynyddoedd. Yn fy etholaeth i, mae canol tref y Fflint wedi cael ei drawsnewid fel rhan o uwchgynllun y Fflint, a fydd yn arwain at adeiladu 30 o dai cyngor newydd a thros 60 eiddo fforddiadwy. A wnewch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ymuno â mi i gydnabod yr arweiniad y mae Cyngor Sir y Fflint wedi’i roi ar hyn, ac a wnewch chi annog eraill i roi camau tebyg ar waith ar draws y wlad?