Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 12 Hydref 2016.
Diolch iddi am y cwestiwn. Rwy’n gyfarwydd â’r rhaglen tai ac adfywio strategol. Rwy’n falch iawn o weld y gwaith ardderchog gan Gyngor Sir y Fflint. Mae’r Cynghorydd Bernie Attridge yn arwain yr ymgyrch o ran y ddarpariaeth yn yr ardal honno ac rwy’n ddiolchgar iawn fod awdurdodau lleol yn dechrau datblygu rhaglenni tai cyngor eto. Bydd hynny, ynghyd â diddymu’r hawl i brynu, yn dechrau cynhyrchu’r stoc a gofiwn ers tro byd, sef tai o ansawdd yn y sector cyhoeddus, ar gyfer pobl sydd eu hangen, a chan gydnabod yn arbennig y gwaith da sy’n mynd rhagddo yn ei hetholaeth.