Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 12 Hydref 2016.
Mae’r sector tai a’u gallu i arallgyfeirio yn creu argraff wirioneddol arnaf, ac nid adeiladu brics a morter yn unig, ond adeiladu cymunedau cryf. Mae hynny hefyd yn wir am landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a throsglwyddo stoc, ond hefyd yr awdurdodau lleol sydd wedi cadw eu stoc. Ac nid wyf yn credu bod yr achos y mae’r Aelod yn cyfeirio ato yn gamwybodaeth; mewn gwirionedd dyna oedd dewis y bobl. Dyna oedd y peth pwysig. Roeddent yn dewis cadw eu stoc ac maent yn gwneud gwaith da iawn o hynny ac yn adeiladu mwy o dai cyngor yn yr ardaloedd sydd eu hangen.