<p>Cynlluniau Adfywio Tai</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 12 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 2:36, 12 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Byddwn yn sicr yn adleisio hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, ac yn sicr yn achos cyngor Caerdydd. Roeddwn i eisiau edrych eto ar fater cartrefi gwag, oherwydd gwn fod y Llywodraeth wedi gwneud llawer iawn o waith ar geisio cael tai gwag yn ôl i ddefnydd. Ond mae’n dal i fod dros 20,000 o gartrefi gwag a allai fod yn darparu cartrefi i bobl sydd eu hangen yn daer. A chan nad yw ond yn costio tua £30,000 i ddod â chartref gwag yn ôl i ddefnydd, mae’n amlwg ei fod yn costio llawer llai nag adeiladu un newydd. Yn anffodus, mae adeiladwyr tai yn amharod i adfer cartrefi gwag am nad oes cymaint o elw yn hynny, ac yn lle hynny, maent eisiau adeiladu cytiau cwningod yn aml, yn hytrach na diogelu cymeriad traddodiadol yr ardal. Felly, roeddwn yn meddwl tybed beth arall y gall y Llywodraeth ei wneud, gyda’r awdurdodau lleol, i sicrhau bod pob tŷ yn gartref y mae pobl ei eisiau.