Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 12 Hydref 2016.
Wrth gwrs, mae’r Aelod yn nodi ac yn cydnabod yr ymyrraeth bwysig a gawsom gyda’n cynllun cartrefi gwag, ac yn sicr rydym wedi bod yn cyflawni hwnnw. Soniais hefyd yr wythnos o’r blaen am yr 20,000 o gartrefi rydym yn dymuno eu hadeiladu, gyda chymysgedd o ddaliadaethau a thenantiaethau. Rwyf hefyd yn credu y bydd tai gwag yn cyfrannu’n fawr at gynyddu’r cyflenwad, yn ogystal â’r 20,000 o gartrefi, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Credaf eu bod yn stoc dda at ei gilydd sydd ond angen eu hadnewyddu, ac mae hynny’n rhywbeth rwyf wedi gofyn i fy nhîm roi cyngor pellach i mi yn ei gylch.