Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 12 Hydref 2016.
Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am grybwyll y gwaith da y mae’r YMCA yn ei wneud ar draws y DU ac yn wir, yn ei etholaeth. Rwy’n sicr yn ymwybodol o’r nifer o wasanaethau sy’n cael eu darparu. Yn anffodus, nid wyf yn gallu cefnogi pob un o’r 33,000 o fudiadau trydydd sector yng Nghymru yn uniongyrchol, ond mae’r YMCA ar hyn o bryd eisoes yn elwa o gyllid a chymorth anuniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, diolch i’r Aelod am ddwyn y mater i fy sylw heddiw, gan godi proffil yr YMCA, ac rwy’n dymuno pob lwc iddynt wrth iddynt ddatblygu rhagor o wasanaethau yn eich cymuned ac mewn cymunedau eraill.