<p>YMCA </p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 12 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 2:46, 12 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Mae’r YMCA, wrth gwrs, yn cynnwys pobl ifanc o bob math o gefndir economaidd-gymdeithasol ac mae ganddo hanes da iawn o weithio gyda grwpiau eraill. Gobeithiaf y byddant yn edrych ar enghraifft Matt’s Cafe yn Abertawe, sy’n gweithio gyda nifer o archfarchnadoedd i fynd â bwyd heb ei werthu i’w ddefnyddio mewn caffi cymunedol. O ystyried y cyhoeddiad ddoe fod Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi cael gwared ar 230,000 o brydau bwyd y llynedd a bod byrddau iechyd yng Nghymru yn cael gwared ar 3,000 o brydau bwyd y dydd ar gyfartaledd, pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda’ch cyd-Aelodau yn y Cabinet ynglŷn â chyfyngu ar wastraff bwyd drwy gefnogi’r mudiadau cymunedol hynny megis YMCA a Matt’s Cafe? Gallwch chi ddelio â’r galw, hyd yn oed os mai eich cyd-Ysgrifennydd Cabinet sy’n delio â’r broblem gyflenwi.