<p>Y Blynyddoedd Cynnar </p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 12 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 2:47, 12 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Ie, Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg mae rhai plant yn ffodus iawn i gael eu geni i deuluoedd cynnes, cariadus, cefnogol, diogel a sefydlog, ond mae yna ormod o blant heb fod yn y sefyllfa ffodus honno. Tybed a allwch ddweud rhywbeth am bolisi Llywodraeth Cymru ar gaffael iaith yn gynnar, rhywbeth y credaf ei fod yn allweddol i gyfleoedd bywyd, yn enwedig mewn perthynas â phlant difreintiedig. Felly, beth a wnawn i gefnogi’r gweithlu i raddau mwy na’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd? Beth a wnawn i gefnogi rhieni yn fwy cadarn a beth a wnawn o ran ariannu? Os gallech ddweud ychydig mwy am barthau plant yn ychwanegol at eich sylwadau cynharach yn y cyd-destun hwnnw, byddwn yn ddiolchgar iawn.