<p>Y Blynyddoedd Cynnar </p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 12 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:48, 12 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Mae’r Aelod yn tynnu sylw at fater pwysig iawn, ac roedd ddoe yn enghraifft ohonof yn dweud yn glir fod yna lawer o raglenni y mae angen i ni eu gwneud i gynnwys y teulu a’r person ifanc. Mae’r gwaith proffilio ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, fel yr awgrymais yn y datganiad ddoe, yn bwysig, lle rydym yn mynd i’r afael â’r union bethau sy’n creu ansefydlogrwydd i deulu neu i unigolyn. Os gallwn drechu’r pethau hynny, gwyddom fod y canlyniadau’n llawer gwell, yn foesol ac yn gyllidol, i’r Llywodraeth yn y tymor hir.

Mae’r materion sy’n ymwneud â chaffael iaith yn rhai pwysig. Cyfarfûm â therapyddion iaith ac rydym yn edrych ar sut y gallwn ymgorffori hynny’n rhan o’r system o wneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i bobl ifanc. Os buddsoddwn yn y blynyddoedd cynnar, rwy’n gwbl grediniol y bydd yn arbed llawer o arian i ni yn y tymor hir. Mae fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet yn rhyw ddechrau cytuno â fy ffordd o feddwl hefyd, ac rwy’n ddiolchgar iawn am hynny.