Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 12 Hydref 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, tybed pa mor hyderus ydych chi ynglŷn â’r system fonitro sy’n edrych ar newid perchnogaeth ar feithrinfeydd oherwydd, wrth gwrs, gellir yn hawdd werthu busnes i fusnes arall neu i unigolyn arall sydd heb y sgiliau a’r ddealltwriaeth briodol, o bosibl, a heb y gwiriadau priodol yn eu lle, a hyd yn oed os yw’n drosglwyddiad heb ymyrraeth, rwy’n dal i feddwl bod angen i ni gael sicrwydd fod yna system fonitro gadarn ar waith i sicrhau bod rhai o’n hunigolion ieuengaf a mwyaf agored i niwed yn cael eu diogelu’n llwyr.