<p>Adfywio yng Nghwm Cynon</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 12 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 2:51, 12 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae cronfa bartneriaeth canol y dref wedi sicrhau llawer o fanteision, gan gynnwys i Aberdâr yn fy etholaeth. Pan fyddaf yn siarad â phobl mewn llawer o ganol trefi a phentrefi eraill, maent yn teimlo y gallent hwy hefyd gael budd o gymorth. A fyddai gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau ar gyfer edrych ar ba wersi y gellir eu dysgu o’r gronfa bartneriaeth, i ddatblygu cymorth wedi’i dargedu fel y gall trefi a phentrefi megis Hirwaun, Aberpennar, Penrhiw-ceibr ac Abercynon yn fy etholaeth hefyd gael budd ohono a ffynnu?