Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 12 Hydref 2016.
Rwy’n ddiolchgar am gwestiwn yr Aelod. Nid ydym byth yn brin o raglenni adfywio y mae pobl yn dymuno iddynt gael eu datblygu ar gyfer eu cymunedau, a diolch am gydnabod y gwaith sy’n digwydd yn ei chymuned yn uniongyrchol. Bwriadwn werthuso a dysgu gwersi o’r rhaglen hon, a bydd y canfyddiadau’n cael eu hystyried ar gyfer polisïau yn y dyfodol a’u rhannu gyda’n rhanddeiliaid. Rwy’n falch o glywed am y gwelliannau sydd ar y gweill yn Aberdâr ac yn croesawu ei sylwadau heddiw.