<p>Y Sector Gwirfoddol </p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 12 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:54, 12 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Mae David Rees yn gwneud pwynt pwysig, rwy’n meddwl, fod llawer o’r gwirfoddolwyr y gofynnir iddynt godi’r darnau pan fydd awdurdodau lleol yn tynnu gwasanaethau yn ôl yn ddefnyddwyr gwasanaethau eu hunain, ac yn aml iawn yn ofalwyr hefyd. Enghraifft ddiweddar a ddaeth i fy sylw yw canolfan ddydd y Drenewydd, y bwriedir ei chau am resymau logistaidd ac ariannol, a’r baich y mae hynny wedyn yn ei roi ar y gweithlu gwirfoddol lleol. Felly, beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau ymagwedd fwy integredig tuag at gynnal o leiaf rai o’r canolfannau hyn a ariennir ac a gefnogir gan y cyngor, ac nid yn unig recriwtio gwirfoddolwyr newydd, ond sicrhau hefyd bod gwirfoddolwyr sydd wedi ymrwymo yn cael gofal seibiant eu hunain, os mynnwch chi, fel y gallant barhau i gyfrannu at eu cymdeithas?