Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 12 Hydref 2016.
Fel y nodir yn ein rhaglen lywodraethu, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda chomisiynwyr yr heddlu a throseddu a phartneriaid eraill ar ystod o faterion. Yn y cyd-destun hwn, byddwn yn parhau i fynd i’r afael â chaethwasiaeth yng Nghymru, gan godi ymwybyddiaeth, cefnogi dioddefwyr a helpu i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell.