<p>Caethwasiaeth Fodern </p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 12 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 3:00, 12 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Weinidog. Y ffaith amdani yw bod mwy na 13,000 o gaethweision yn y wlad hon, ac nid wyf yn gwybod faint yng Nghymru. A ydych yn ymgysylltu gyda’r heddlu mewn gwirionedd? Ceir canfyddiad cyffredinol nad oes ganddynt adnoddau i fynd i’r afael â chaethwasiaeth, sydd hefyd yn cynnwys pob math o gaethwasiaeth—mae yna gaethweision rhyw, llafur rhad a Duw a ŵyr faint o broblemau cymdeithasol gwahanol ynghlwm wrth hyn. A oes digon o adnoddau yn eich adran i’r heddlu allu mynd i’r afael â’r gaethwasiaeth hon yng Nghymru, a’i dileu am byth?