4. Cwestiwn Brys: Cyfleuster Cynnal a Chadw British Airways

– Senedd Cymru ar 12 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Mae [R] yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant. Mae [W] yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:56, 12 Hydref 2016

Rwyf wedi derbyn cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66, ac rwy’n galw ar Adam Price i ofyn y cwestiwn brys.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 12 Hydref 2016

Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiadau bod British Airways yn ystyried torri 66 o swyddi yn ei gyfleuster cynnal a chadw ym Maes Awyr Caerdydd? EAQ(5)0054(EI)[W]

Photo of Julie James Julie James Labour 3:56, 12 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Mae newyddion heddiw am ddiswyddiadau yng nghyfleuster cynnal a chadw British Airways yn anffodus. Mae BA yn chwilio am ddiswyddiadau gwirfoddol lle bo hynny’n bosibl. Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio’n agos gyda BA. Gofynnir i’r Ganolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru i gefnogi’r holl staff yr effeithir arnynt, a bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad wrth i ni ddod i wybod mwy.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Yn amlwg, fel y mae’r Gweinidog wedi dweud, mae hwn yn newyddion annymunol iawn wrth gwrs mewn cyfnod economaidd ansicr iawn, a bydd yn bryder mawr i’r gweithwyr yr effeithir arnynt a’u teuluoedd. Ac wrth gwrs, mae’n ergyd ddifrifol i’r sector awyrofod, sy’n ffynhonnell bwysig o swyddi medrus iawn a chyflogau uchel ledled Cymru, ond yn enwedig yn yr ardal fenter y mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi’n helaeth ynddi, nid yn lleiaf, wrth gwrs, wrth gaffael Maes Awyr Caerdydd ei hun. A allai’r Gweinidog ddweud wrth y Cynulliad ar ba bwynt y daeth y Llywodraeth yn ymwybodol fod y swyddi hyn yn mynd i gael eu colli? Ymddengys bod yna batrwm yn ddiweddar sy’n peri pryder gyda rhai o’n cwmnïau mawr yn gwneud y cyhoeddiadau hyn. A yw antenâu Llywodraeth Cymru yn ddigon effro i’r posibiliadau hyn?

A all y Llywodraeth hefyd rannu’r hyn y mae’n ei wybod am y diben sylfaenol sy’n sail i’r cyhoeddiad hwn? Mae’r cwmni wedi cyfeirio at ailstrwythuro corfforaethol. Ai achos o doriadau yn y niferoedd cyffredinol yw hwn, neu a oes rhywfaint o’r gweithgaredd cynnal a chadw yn cael ei adleoli mewn man arall? A yw’n wir, fel y clywsom gan aelodau o’r gweithlu, fod yna awgrym hefyd fod rhai staff yn cael eu hail-raddio ac yn wynebu colli cyflog o ganlyniad i hynny?

Mae’r cwmni ei hun wedi gwneud cyfres o rybuddion elw yn ystod y misoedd diwethaf, yn sgil dibrisiant y bunt a’r ansicrwydd yn dilyn y refferendwm. A oes unrhyw awgrym ar hyn o bryd o unrhyw gysylltiad rhwng y penderfyniad hwn a’r rhybuddion elw hynny? A fyddai’r Gweinidog yn cytuno, os yw’n achos syml o dorri costau, y byddai hynny’n destun pryder mawr iawn pe bai’n cael ei wneud ar draul y gweithlu ac yn wir, diogelwch cwsmeriaid BA, yn enwedig gan gwmni sydd, er gwaethaf y rhybuddion elw hynny, yn dal i ddangos elw o dros £1 biliwn ac sy’n talu miliynau o bunnoedd i’w brif weithredwr, sef prif weithredwr y grŵp awyrennau rhyngwladol, Willie Walsh? Dyna pam rwy’n teimlo y bydd y gweithlu, yn sicr, yn ei chael hi’n eithriadol o anodd derbyn y penderfyniad hwn a’r rhesymeg sy’n sail iddo. Yn olaf, a all hi ddweud ble mae hyn yn gadael y strategaeth y cyfeiriais ati o ran yr ardal fenter, ac o ran y sector awyrennau, sy’n un o’n sectorau allweddol yma yng Nghymru?

Photo of Julie James Julie James Labour 3:59, 12 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny, sydd i gyd yn bwysig iawn yn wir, a byddaf yn gwneud fy ngorau i’w hateb yn llawn. O ran pa bryd, mae’r Llywodraeth, drwy ei swyddogion ac ar lefel wleidyddol, wedi bod mewn cysylltiad â BA trwy gydol y flwyddyn hon. Cynhaliwyd cyfarfodydd ar lefel uwch yn gynharach eleni yn Llundain. Mae amrywiaeth o swyddogion yn ymwneud â BA ar bob adeg fel rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru i helpu’r cwmni.

Cawsom wybod yn ffurfiol y bore yma am y swyddi sy’n mynd i gael eu colli, gan ei bod yn iawn ac yn briodol fod BA yn dweud wrth ei staff, ei weithlu, yn gyntaf cyn iddynt roi gwybod i unrhyw drydydd parti a rhanddeiliaid eraill, ond cawsom wybod yn syth wedyn. Rydym mewn cysylltiad cyson â hwy, felly nid oedd yn syndod, ond ni chawsom wybod yn ffurfiol tan ar ôl i’r gweithlu gael ei hysbysu’n ffurfiol. Mae angen proses gyfreithiol briodol yn awr, cyfnod ymgynghori o 90 diwrnod, ac mae’r undebau’n ymwneud â hynny. Mae BA yn pwysleisio’n gryf eu bod yn chwilio am ddiswyddiadau gwirfoddol, a’u bod yn gobeithio osgoi unrhyw ddiswyddiadau gorfodol. Wrth gwrs, nid ydynt yn gallu gwarantu hynny, gan na all neb wneud hynny byth mewn proses fel hon, ond maent yn obeithiol iawn y gallant wneud hynny.

Mae hyn yn sicr yn rhan o’u cynlluniau pum mlynedd i ailstrwythuro’u cwmni, ac nid oes arnaf eisiau i neb fynd oddi yma heddiw dan gwmwl o anobaith a digalondid. Yn amlwg, mae’n newyddion drwg iawn i’r staff dan sylw, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i gynorthwyo pob un ohonynt mewn unrhyw ffordd y mae eu hamgylchiadau’n galw am ei wneud, ond mae gan BA ddyfodol da ar y safle, mae’n rhan o gynlluniau ailstrwythuro cyffredinol, ac nid oes gennym unrhyw reswm dros feddwl ei fod yn arwydd o unrhyw anhawster parhaus. Yn sicr, nid wyf am roi unrhyw argraff o gwbl fod yna broblem ynglŷn â diogelwch neu unrhyw beth tebyg. Nid oes unrhyw reswm o gwbl dros feddwl y fath beth, ac nid wyf eisiau i’r Aelodau fynd oddi yma â’r argraff honno.

Felly, ni allaf ond ailadrodd yr hyn a ddywedais mewn gwirionedd. Mae hyn yn rhan o’r ymgynghoriad ffurfiol, mae’n rhan o strategaeth gyffredinol y buom yn ymwneud â hi. Rwy’n credu eu bod yn dilyn y prosesau cywir. Nid oes gennym unrhyw reswm dros gael ein brawychu’n fawr. Mae gennyf bob cydymdeimlad gyda staff y bydd hyn yn effeithio arnynt, ond nid oes rheswm dros bryderu’n fwy eang ac mewn gwirionedd, mae pob rheswm dros deimlo’n obeithiol y bydd y cynllun pum mlynedd yn y pen draw yn amlygu diwydiant mwy cynaliadwy a mwy cadarn yma yng Nghaerdydd.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 4:02, 12 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Weinidog, diolch i chi am eich ymateb hyd yn hyn i’r cwestiwn brys. Rwyf wedi ymweld â’r safle ar nifer o achlysuron ac rwy’n sylweddoli safle mor gymhleth ydyw, gyda thîm amlddisgyblaethol yno sy’n cyflawni ar y blaen yn eu maes, ond mewn amgylchedd cystadleuol iawn, gyda Dubai a Singapore yn cynnig arbedion maint mawr iawn i rai gweithredwyr, ond mae BA, er tegwch iddynt, wedi ymrwymo i’r safle hwn ac maent wedi buddsoddi arian sylweddol yn y safle. A allech ymhelaethu ychydig ar eich trafodaethau chi a thrafodaethau’r Llywodraeth gyda BA ynglŷn ag a gyflwynwyd unrhyw geisiadau ffurfiol i’r Llywodraeth am gymorth i ailgategoreiddio cyflogaeth ar y safle, am help gydag ailhyfforddiant, neu am gymorth o unrhyw fath i gadw rhai o’r 66 o swyddi? Clywaf yr hyn a ddywedwch, mai y bore yma’n unig y cafodd y cyhoeddiad ffurfiol ei gyfleu i chi, ond fe roesoch awgrym, yn amlwg, eich bod, mewn trafodaethau cychwynnol, wedi cael gwybod y gallai fod heriau o fewn y sylfaen gyflogaeth yno.

Yn ail, rydym yn ymwybodol, yn amlwg, o’r newyddion cadarnhaol a gyhoeddwyd y llynedd amdanynt yn ennill y contract Dreamliner ar gyfer cynnal a chadw yn y dyfodol, ond mae yna gyfnod rhwng cael gwared ar yr awyrennau 747 yn raddol a bod y Dreamliners angen eu hamserlenni cynnal a chadw, gan ei bod yn awyren newydd iawn, wrth gwrs. A yw’r swyddi hyn a gollir yn symptom o’r cyfnod byr—gobeithio y bydd yn fyr—o bontio rhwng cael gwared ar yr awyrennau 747 sydd yn fflyd BA yn raddol a mynd â gwaith cynnal a chadw Dreamliner ar y safle, fel bod elfen o lacrwydd yn y system sy’n amlwg yn gofyn am rywfaint o ailgydbwyso’r gweithlu? Yn fwy na dim, a allwch gadarnhau pa un a yw’r swyddi a gollir mewn adran benodol ar y safle, neu a ydynt ar draws y gweithlu ar y safle, sy’n cyflogi tua 700 o weithwyr?

Mae’n amlwg yn adeg bryderus i’r teuluoedd a’r gweithwyr eu hunain, ond rwyf innau hefyd—fel chi, Weinidog—yn rhannu optimistiaeth ynglŷn â diogelwch y safle ac yn wir, wrth gwrs, ynglŷn â’r llyfr archebion yn y dyfodol, sy’n edrych yn gadarn, ond fel y dywedais, mae yna gyfnod o bontio rhwng yr awyrennau 747 a’r Dreamliners.

Photo of Julie James Julie James Labour 4:04, 12 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, nid wyf mewn sefyllfa i roi manylion llawn ynglŷn â strategaeth BA ar y safle i chi; rwy’n credu mai mater iddynt hwy yw gwneud hynny fel endid corfforaethol. A dyna a ddywedais, pan ddywedais y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith yn hysbysu’r Cynulliad am unrhyw newyddion—gan ei bod yn iawn ac yn briodol i’r Cynulliad gael gwybod beth yw’r cynllun, ac wrth iddo gael ei gyhoeddi i’r gweithlu ac yn y blaen, byddwn yn rhoi gwybod am hynny i’r Cynulliad. Felly, nid wyf mewn sefyllfa heddiw i roi holl gynnwys y cynllun i chi mewn manylder, ond rwyf am ddweud ein bod wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda’r cwmni, ein bod yn chwarae rhan lawn, a bod gennym bob gobaith ar gyfer dyfodol y safle ac y bydd yn cael ei roi ar sylfaen gynaliadwy i’r dyfodol rhagweladwy, a dyna y mae pawb ohonom ei eisiau. Rwyf am ailadrodd fy nghydymdeimlad â staff sy’n wynebu diswyddiadau. Mae gennym bob cydymdeimlad â phobl yr effeithir ar eu bywydau yn y ffordd honno—mae’n beth ofnadwy i unrhyw un ei wynebu—ond nid wyf am i neb fynd oddi yma heddiw gyda’r syniad digalon fod hynny’n golygu bod rhyw ansicrwydd strwythurol neu unrhyw beth arall yn BA. Yn bendant iawn, nid dyna’r neges rydym am ei chyfleu.

O ran y drafodaeth ar hyfforddiant, rydym wedi bod yn cynorthwyo BAMCE gyda hyfforddiant yn y ffordd rydym yn cynorthwyo llawer o’n cwmnïau angor a chwmnïau pwysig yn rhanbarthol, ac yn y blaen. Felly, mae gennym raglen hyfforddi rydym yn eu cynorthwyo â hi—rydym yn eu cynorthwyo gyda phrentisiaid, er enghraifft, ac anghenion hyfforddi eraill. Mae hynny’n sicr yn rhan o’r berthynas strwythuredig rhwng y Llywodraeth a’r cwmni, ac mae hynny’n parhau. Nid oes gennyf unrhyw reswm dros deimlo bod hynny’n unrhyw beth heblaw’r llwyddiant y soniais yn ei gylch yn y Siambr hon sawl gwaith o ran y prentisiaid, ac yn y blaen. Felly, nid oes unrhyw reswm dros ofni yn hynny o beth. Mae angen mynd drwy’r broses. Mae angen i ni fod yn obeithiol y gallwn sicrhau diswyddiadau gwirfoddol, na fydd unrhyw angen i bobl nad ydynt eisiau mynd i fynd, ac fel y dywedais, mae ein staff a staff y Ganolfan Byd Gwaith wrth law ar gyfer unigolion a sicrhau bod eu hamgylchiadau a’u hanghenion unigol yn cael eu diwallu, a dyna’r math o wasanaeth personol a gynigiwn i staff yn y sefyllfa hon.

Felly, unwaith eto, rwyf am ailadrodd nad oes gennym unrhyw reswm dros feddwl bod yna broblem strwythurol sylfaenol gyda hyn, nac unrhyw reswm i weddill y staff yno ofni. Mae gennym gynllun pum mlynedd ar y gweill a pherthynas dda gyda’r cwmni. Mae gennym bob rheswm dros feddwl y bydd hynny’n parhau i’r dyfodol.