5. 4. Dadl Plaid Cymru: Iechyd Meddwl

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:06 pm ar 12 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:06, 12 Hydref 2016

Mi gyfeiriaf i hefyd at welliant y Llywodraeth. Efo’r hinsawdd wleidyddol fel y mae, allwn ni ddim, rydw i’n meddwl, ymddiried yn Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i beidio â thynnu amddiffyniad yn ôl i bobl sy’n agored i niwed yn y gweithle. Mae yna arwyddion, onid oes, bod y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ar radar y Llywodraeth yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd. Felly, rydym ni’n teimlo y byddai’n anghyfrifol i Lywodraeth Cymru beidio â cheisio cael y pwerau dros gyfraith gyflogaeth fel y gall pobl mewn gweithleoedd yng Nghymru gael eu hamddiffyn a chael yr amddiffyniad maen nhw’n ei haeddu. Cefnogwch y cynnig fel y mae o heddiw. Rwy’n edrych ymlaen at gyfraniadau’r Aelodau’r prynhawn yma.