Part of the debate – Senedd Cymru am 4:14 pm ar 12 Hydref 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl hon heddiw. Mae’r materion a nodwch yn eich cynnig wedi cael cryn dipyn o sylw, mewn gwirionedd, yn y Cynulliad yn ystod yr wythnosau diwethaf. Ond rwy’n credu, fel chi, ei bod yn bwysig iawn canolbwyntio ar y stigma sydd ynghlwm wrth gyflyrau iechyd meddwl, gan y gall effeithio ar unigolyn am weddill ei oes.
Fel y dywedoch, bydd un o bob pedwar ohonom yn dioddef o ryw fath o broblem iechyd meddwl, boed yn iselder, sef y mwyafrif llethol, gorbryder, dementia, iselder amenedigol neu salwch seicotig. Am ei fod yn effeithio ar gymaint ohonom, mae’n rhaid i ni feddwl tybed pam rydym yn ei gwneud mor anodd i’r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl gredu eu bod yr un mor werthfawr i gymdeithas ag unrhyw un arall. Er enghraifft, os edrychwch ar y dystiolaeth ar gyfer y rhai sydd wedi cael salwch seicotig, mae’n amlwg mai un cyfnod o salwch yn unig y bydd un o bob tri yn ei gael, ac eto, ar ôl mynd yn rhan o’r system, gall fod yn anodd iawn iddynt dorri’r cylch, symud ymlaen, dysgu sut i ymdopi â’u salwch a dychwelyd i fyd addysg neu’r gweithle. Dangosir bod stigma, ac ofn stigma, yn chwarae rhan fawr yn yr anallu hwn i ailintegreiddio. Bydd traean arall yn ymdopi drwy feddyginiaethau, ac unwaith eto, mae’r un peth yn wir am yr ystadegyn hwnnw—mae stigma, ac ofn stigma, wedi ei gwneud yn anodd iawn dychwelyd i’r gweithle. Os edrychwch ar y bobl sydd heb waith oherwydd iechyd meddwl—y dyddiau hyn maent yn tueddu i fod yn bobl yn eu 40au, 50au a 60au—ar adeg pan oedd y byd hyd yn oed yn fwy anodd i bobl â phroblemau iechyd meddwl nag y mae heddiw.
Mae’r bobl rwy’n siarad â hwy am eu problemau iechyd meddwl yn sôn am yr hyn rwyf wedi ei alw’n ‘chwa o anghymeradwyaeth’. Mae pobl ifanc yn eu harddegau wedi dweud wrthyf fod pobl yn dychryn am eu bod yn hunan-niweidio, nid yw eu teuluoedd yn eu deall, neu credant fod angen iddynt ddod at eu coed os ydynt yn cael trafferth gydag anhwylderau bwyta. Weithiau, gallai person sydd â phroblemau iechyd meddwl—ac rwy’n pwysleisio’r gair ‘gallai’—droi at alcohol neu gyffuriau i ymdopi. Mae’r rhan fwyaf o bobl ddigartref, y rhai ar y stryd, yn dioddef o broblem iechyd meddwl sylfaenol ac i fod yn onest, nid yw pobl yn hoffi’r digartref—y weino digartref sy’n loetran o gwmpas mynedfa’r archfarchnad—ond yr hyn nad ydynt yn ei weld yw’r person sydd wedi colli popeth, ac fel arfer, yr achos sylfaenol yw diffyg cefnogaeth neu ddiagnosis cynnar o gyflwr iechyd meddwl. Efallai mai dyma’r broblem, gan fod coes neu fraich sydd wedi torri yn hawdd i’w gweld, mae cyflyrau cronig yn cael eu derbyn, mae pobl sydd â chanser neu broblemau’r galon yn gymharol hawdd i sylwi arnynt a’u cefnogi neu gydymdeimlo â hwy, ond iechyd meddwl—maent yn anweladwy, yn anodd eu hadnabod, ac yn aml yn agored i’w camddehongli.
Bob blwyddyn yng Nghymru, mae rhwng 300 a 350 o bobl yn marw o hunanladdiad, ac mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos mai dyna yw prif achos marwolaeth i rai rhwng 20 a 34 oed. Mae pobl sydd wedi cael diagnosis o gyflwr iechyd meddwl mewn perygl arbennig, gyda 90 y cant amcangyfrifedig o’r bobl sy’n ceisio marw, neu yn marw, drwy hunanladdiad ag un neu fwy o gyflyrau iechyd meddwl. Ceisio cyflawni hunanladdiad, cyffuriau, alcohol—dyma’r pethau nad yw cymdeithas yn eu hoffi, ond nid ydym yn edrych y tu hwnt i hynny i weld beth yw’r achos, ac mae hynny’n atgyfnerthu’r stigma difrïol y bydd person sydd â phroblem iechyd meddwl yn aml yn ei deimlo; chwa o anghymeradwyaeth.
Bydd addysgu pobl ifanc yn mynd yn bell i wrthsefyll hyn. Rydym eisoes yn well am dderbyn anableddau corfforol ac mae plant yn dysgu am faterion iechyd personol a materion amgylcheddol, am fod ysgolion yn canolbwyntio ar y ffrydiau hyn. Byddem yn hoffi gweld gwaith yn cael ei gomisiynu, Ysgrifennydd y Cabinet, ar y ffordd orau o roi dealltwriaeth o faterion iechyd meddwl i blant ifanc. Yn yr ysgol uwchradd, mae hyn hyd yn oed yn fwy pwysig oherwydd y straen eithriadol sydd ar ein pobl ifanc.
Gan droi at ran arall o’ch cynnig, mae’n hanfodol addysgu cyflogwyr, boed yn gyflogwyr preifat neu gyhoeddus, ac yn arbennig, addysgu’r gwasanaethau hynny sy’n rhyngwynebu ag aelodau o’r cyhoedd er mwyn sicrhau mynediad a pharch cydradd i bobl â phroblemau iechyd meddwl. Rwy’n meddwl bod ymgyrch Amser i Newid wedi cyfrannu llawer iawn tuag at wneud hyn, ac roedd yn bleser mawr gennyf gyfarfod â hyrwyddwyr yr ymgyrch Amser i Newid ddydd Llun yr wythnos hon a ddaeth o gwmpas gyda’u ci cymorth i siarad â ni am y materion hyn.
Felly, nid oes gan y Ceidwadwyr Cymreig gweryl gyda Phlaid Cymru ynglŷn â’u cynnig, heblaw am saith gair:
‘a chwilio am bwerau dros gyfraith cyflogaeth.’
Roeddwn yn drist o weld y pwyslais cenedlaetholgar hwn ar yr agenda, oherwydd mae hon yn agenda nad yw fel arfer yn ein gwahanu. Felly, rydym wedi diwygio—ac rwy’n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Paul Davies—ac os gwrthodir ein gwelliant, byddwn yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth, sy’n anffodus, oherwydd, ym mhob ffordd arall, rydym yn cyd-fynd yn llwyr â’r cynnig hwn, ac rwy’n diolch i chi am ei gyflwyno.