Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 12 Hydref 2016.
Rydym wedi cael nifer o ddadleuon yn y Siambr hon dros y blynyddoedd ar iechyd meddwl, ac rwy’n meddwl, yn amlwg, ei bod wedi bod yn her i ni drafod hyn, ond yn fwy o her i bobl allu darparu gwasanaethau yn y maes hwn, ac i siarad am brofiadau personol, fel y mae llawer wedi’i wneud yn yr ystafell hon heddiw.
Fel arfer, rwy’n dechrau trwy siarad am hawliau a diogelu’r dioddefwyr, ond heddiw rwyf am ddweud stori fach am rywun sy’n cael ei gyflogi yn y gwasanaeth iechyd meddwl yn ne Cymru a siaradodd â mi dros y penwythnos. Gweinyddwraig yw hi sy’n gweithio ar ran canolfan iechyd meddwl yn fy rhanbarth, ac nid yw wedi’i hyfforddi ym maes iechyd meddwl o gwbl. Yn wir, mae hi wedi gofyn ar sawl achlysur am gael hyfforddiant fel ei bod yn gwybod, pan wêl rywun yn dod drwy’r drws, y gall ymdopi â’r sefyllfa. Mae hi wedi cael profiad dair neu bedair gwaith lle mae un gŵr wedi ffonio i ddweud wrthi ei fod yn trywanu ei hun yn gorfforol yn ei stumog am nad yw eisiau byw mwyach, ac yn gofyn sut y gall hi ei helpu. Weithiau ni all ei atgyfeirio at feddyg, oherwydd bod y meddyg yn gweld rhywun arall yn y clinig a dywedodd wrthyf, ‘Mae arnaf ofn gan nad oes gennyf unrhyw gymwysterau, ond rwy’n delio â’r dyn hwn. Beth os yw’n llwyddo i ladd ei hun wrth wneud hyn? Oherwydd y tro nesaf, fe fydd yn marw, ac ni fyddaf yn gallu ei achub.’ Rwy’n credu bod clywed straeon felly—. Mae’r ystadegau’n bwysig, ond pan ddywedodd hynny wrthyf, roeddwn yn meddwl bod y wraig hon, sydd ar y raddfa gyflog isaf ar draws y GIG yn yr ardal honno, yn gorfod ymdopi â phrofiad mor drawmatig, ac mae’n rhaid iddi fynd â hynny yn ôl at ei theulu bob nos. Rwy’n credu bod hynny’n rhywbeth y dylem i gyd ei gofio yn y drafodaeth hon.
Wrth gwrs, rwyf am drafod cyflogwyr hefyd. Rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn trafod hyn mewn perthynas â sut y gallwn ddiogelu cyflogwyr yng Nghymru. Nid trafodaeth am bropaganda cenedlaetholgar mohoni. Mae’n ymwneud â sut y gallwn ddiogelu gweithwyr yn ein safleoedd GIG ac yn ein gwaith sector cyhoeddus oherwydd y bleidlais i adael yr UE pan fyddant yn diddymu’r union hawliau gweithwyr y dadleuodd y Blaid Lafur drostynt yn y lle cyntaf. Os nad ydym eisiau’r pwerau hynny yma, a’n bod eisiau i’r Ceidwadwyr yn San Steffan reoli dros y pwerau hynny, yna pam rydym yn ymhél â gwleidyddiaeth? Rwyf eisiau’r pwerau hynny yn y fan hon fel y gallwn ddiogelu’r bobl sy’n gweithio yn ein hamgylchedd a gwneud yn siŵr eu bod yn ddiogel wrth weithio mewn amgylcheddau o’r fath.
Rydym wedi siarad yma heddiw am gyflogwyr sydd, o bosibl, wedi gwrthod neu na fydd yn cyflogi pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl. Rwy’n meddwl bod y stigma yn dal i fod yno, er fy mod i a Llyr ac eraill, a David Melding, wedi siarad allan. Rwyf wedi cael negeseuon gan bobl yn dweud wrthyf, ‘Wel, mae’n wych eich bod wedi gwneud hynny, Bethan, ond nid wyf am ddweud wrth fy nghyflogwr fy mod yn dioddef naill ai o anhwylder deubegynol neu iselder, gan fy mod yn gwybod os af i’r gwaith yfory y byddant yn edrych arnaf yn wahanol a byddant yn fy ngweld yn wahanol, a byddant yn meddwl na allaf wneud fy ngwaith, yn rhinwedd y ffaith fy mod wedi fy labelu ag iselder.’ Rwy’n credu bod honno’n dal i fod yn her enfawr i Lywodraeth Cymru allu delio â hi.
Mater arall rwy’n angerddol yn ei gylch hefyd yw cael mwy o wersi hunan-barch a hyder mewn ysgolion. Nid wyf o reidrwydd yn dweud y dylem gael gwersi iechyd meddwl, oherwydd gallai hynny fod yn berygl ynddo’i hun, lle byddem yn dweud wrth rywun am gyflwr ac efallai y byddent yn teimlo’n nerfus ynglŷn â gwybod mwy am y clefyd hwnnw ar oedran mor ifanc. Felly, dyna pam, dros y blynyddoedd, y cefais gyfarfod gyda Jane Hutt, pan oedd Jane Hutt yn Weinidog Addysg, ynglŷn â cheisio cael gwersi llesiant o’r fath mewn ysgolion fel bod pobl, merched ifanc yn arbennig, yn gallu cael yr hyder i fynd allan heb gredu nad ydynt yn ddim mwy na gwrthrych rhywiol wrth iddynt gerdded ar hyd y stryd, gyda’r hysbysebion ar fyrddau arddangos, a’u bod yn mynd i gael eu gwrthrycholi am weddill eu bywydau, ac i gael anhawster i rymuso eu hunain pan fyddant yn tyfu i fyny i fod yn fenywod yn y gymdeithas hon.
Rwy’n meddwl y dof i ben drwy ddweud ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael y dadleuon hyn, ond rwy’n meddwl ei bod yn llawer mwy pwysig ein bod yn gweld camau gweithredu ar waith yn awr. Mae gwasanaethau yn ei chael yn anodd ac mae gan ysgolion wasanaethau cwnsela sy’n gwegian o dan y pwysau. Mae angen i ni gael gwared ar rethreg o’r Siambr hon a gwneud yn siŵr ein bod i gyd yn ymgyrchu yn ein priod ardaloedd er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi diwedd ar stigma a hefyd yn siarad â phobl mewn ffordd gadarnhaol ynglŷn â pham nad yw eu salwch meddwl yn eu diffinio. Efallai na fydd rhai pobl byth yn gallu—. Fel salwch corfforol, efallai y bydd modd ei drin ac y bydd yn diflannu am byth, ond weithiau bydd yn aros gyda chi. Ni ddylid gweld hynny fel peth gwael ac ni ddylai ddiffinio pwy ydych chi fel person. Ni ddylai fod yn fwy na rhan yn unig o ddarlun ehangach o bwy yw’r person hwnnw. Rwy’n gobeithio y gallwn adael y Siambr hon heddiw yn meddwl am hynny. Diolch yn fawr.