Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 12 Hydref 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl a’r Aelodau sydd wedi cyfrannu at ddadl aeddfed a synhwyrol, a chredaf ei bod yn adlewyrchu agwedd y Siambr hon dros amryw o dymhorau ar y mater hwn. Oherwydd, fel y mae eraill wedi dweud, rydym i gyd yn cydnabod y bydd problemau iechyd meddwl yn effeithio ar bob un ohonom ar ryw adeg neu’i gilydd, boed yn uniongyrchol fel unigolion sy’n dioddef, neu ffrindiau, teuluoedd neu anwyliaid. Rwy’n cefnogi egwyddorion y cynnig heddiw.
Wrth gwrs, dydd Llun oedd Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, pan lansiais ail gynllun cyflawni’r Llywodraeth i gefnogi ein strategaeth 10 mlynedd drawslywodraethol, ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’, a ddoe, yn ystod fy natganiad llafar, aethom drwy’r cynllun cyflawni’n fwy manwl ar gyfer y tair blynedd nesaf. Nodwyd 10 maes blaenoriaeth gennym ar gyfer gwella, a sut y disgwyliwn weld hynny’n cael ei ddatblygu a’i gyflwyno mewn gwirionedd.
Fe ddechreuaf gyda stigma a gwahaniaethu, materion, unwaith eto, y buom yn eu trafod ddoe. Rwy’n falch o glywed amryw o Aelodau’n crybwyll y mater hwn yn eu cyfraniadau heddiw, a hefyd i ymateb i’r Aelodau hynny yn y Siambr hon a fu’n siarad am eu profiadau hwy eu hunain o ddioddef salwch meddwl mewn gwirionedd. Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod i gyd yn arddangos elfen o arweiniad yma, fel unigolion ac fel aelodau yn y lle hwn, yn y ffordd rydym yn ymddwyn. Mae’r ffordd rydym yn siarad am y materion hyn yn gwneud gwahaniaeth.
Er ein bod yn gwybod bod agweddau’n newid, mae’n dal i fod llawer mwy i’w wneud. Dyna pam y mae’n flaenoriaeth yn y rhaglen lywodraethu newydd ac mae hefyd yn elfen allweddol o’r cynllun cyflawni, ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’. Rwy’n falch iawn fod Aelodau eraill yn y Siambr hon, ym mhob plaid, wedi cydnabod gwerth yr ymgyrch Amser i Newid Cymru. Dyma’r ymgyrch genedlaethol gyntaf o’i bath i helpu i roi diwedd ar wahaniaethu a stigma i’r rhai sy’n dioddef problemau iechyd meddwl. Wrth gwrs, prif nod hyn yw herio’r problemau hynny ond hefyd i geisio newid y ffordd rydym yn meddwl ac yn siarad am y materion hyn. Mae’r bartneriaeth sydd wedi dod â hynny at ei gilydd gyda Mind, Hafal a Gofal, ac mae Llywodraeth Cymru yn falch o fod wedi cefnogi hynny gyda £0.5 miliwn o gyllid.
Byddwn hefyd yn cefnogi digwyddiad ar stigma yn gynnar yn y flwyddyn newydd a gynhelir mewn partneriaeth â Mind, Gofal a Hafal, i wneud yn siŵr nad yw’r mater yn llithro oddi ar yr agenda. Rydym wedi gwneud llawer, a dylem fod yn falch ohono, ond mae’n dal i fod llawer mwy i’w wneud.
Bydd y materion ynglŷn â stigma a gwahaniaethu hefyd yn llywio’r rhaglen wrth-stigma newydd i bobl ifanc a fydd yn cael ei harwain gan bartneriaeth Amser i Newid. Dros gyfnod y prosiect, rydym yn disgwyl i hyrwyddwyr ifanc ymgysylltu ag o leiaf 5,000 o bobl ifanc ac yn anelu i ddatblygu ymagwedd ysgol gyfan tuag at ymwybyddiaeth o iechyd meddwl, negeseuon gwrth-stigma a gweithgaredd i atgyfnerthu hynny.
Rwyf hefyd yn cydnabod bod llawer o Aelodau wedi cyfeirio at fyd gwaith yn eu cyfraniadau. Wrth gwrs, fel y nodwyd gennym ddoe, unwaith eto, gall problemau iechyd meddwl effeithio’n enfawr ar allu rhywun i weithio, ond hefyd mae gwaith da yn dda i iechyd corfforol ac iechyd meddwl pobl hefyd. Felly, drwy ein rhaglen Cymru Iach ar Waith, rydym yn cynorthwyo cyflogwyr i gydnabod nad yw iechyd meddwl o reidrwydd yn rhwystr i weithio ac mai cyflogaeth gynaliadwy yn aml yw’r ffordd orau o gynorthwyo unigolion i’w helpu i wella o unrhyw gyfnodau o salwch meddwl. Mae’r rhaglen Cymru Iach ar Waith yn ein galluogi i gynorthwyo cyflogwyr i gynorthwyo eu staff eu hunain i wella eu hiechyd meddwl a’u llesiant eu hunain. Mae dros 3,000 o gyflogwyr eisoes yn ymwneud â Cymru Iach ar Waith a rhyngddynt, maent yn cyflogi dros 460,000 o bobl yng Nghymru. Felly, mae cyrhaeddiad y rhaglen honno eisoes yn arwyddocaol.
Er mwyn adeiladu ar hyn a symud ymlaen, rydym wedi datblygu rhaglen, a ariennir drwy gronfeydd strwythurol Ewrop, i gadw pobl mewn gwaith a helpu pobl i symud yn nes at waith yn ogystal. Mae ffocws y rhaglen ar gefnogi pobl gyda phroblemau iechyd meddwl. Felly, mae’r gwasanaeth cymorth mewn gwaith yn anelu i helpu dros 4,000 o bobl a 500 o gyflogwyr drwy ddarparu mynediad cyflym at therapïau sy’n canolbwyntio ar waith i bobl sydd mewn perygl o fod yn absennol o’r gwaith yn hirdymor. Nod y gwasanaeth i’r di-waith yw cynorthwyo 6,000 o bobl i oresgyn rhwystrau iechyd i gyflogaeth, gan eu symud yn agosach at waith neu i gael gwaith. Mae’r rhaglenni hyn wedi sicrhau dros £8 miliwn o gymorth cyllid strwythurol Ewropeaidd dros dair blynedd.
Unwaith eto, rwy’n hapus i gydnabod yr hyn sydd wedi cael ei ddweud, nid yn unig yn y ddadl heddiw, ond yn ystod y datganiad ddoe a sawl un arall, ac rwy’n siŵr y bydd yn parhau i fod yn wir yn y dyfodol, sef y modd rydym yn cefnogi plant a phobl ifanc. Unwaith eto, mae hon yn elfen allweddol, fel y byddech yn disgwyl iddi fod, o’n dull o wella iechyd meddwl a lles a mynd i’r afael â stigma a gwahaniaethu. Byddwn yn parhau i ddadlau ynghylch CAMHS a’r hyn rydym yn ei wneud hyd nes ein bod yn cydnabod bod amseroedd aros mewn man lle mae pawb ohonom yn cydnabod ein bod mewn sefyllfa dderbyniol a’n bod yn gweld gwelliant go iawn a pharhaus. Nid wyf yn cilio rhag hynny. Dyna pam y mae’n flaenoriaeth yn ein cynllun cyflawni. Yn benodol, yr amcan ehangach i ddatblygu cydnerthedd a lles emosiynol ymhlith plant a phobl ifanc i wneud yn siŵr ein bod wedi helpu i ddatblygu cydnerthedd a lles emosiynol plant cyn iddynt gyrraedd eu harddegau, fel ein bod yn gweld llai o broblemau’n codi ar yr adeg honno ac yn ddiweddarach yn eu bywydau fel oedolion.
Fel y byddwch wedi clywed ddoe gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, mae yna dystiolaeth gref fod lles plant yn gysylltiedig â’u canlyniadau addysgol. Ar gyfartaledd, mae plant sydd â lefelau uwch o les emosiynol, ymddygiadol, cymdeithasol ac ysgol yn cyrraedd lefelau uwch o gyflawniad academaidd. Maent hefyd i’w gweld yn cymryd mwy o ran yn yr ysgol, addysg uwch, gwaith ac agweddau eraill ar fywyd mewn blynyddoedd diweddarach. Dyna pam y byddwn yn cryfhau ein gwaith gydag ysgolion a cholegau i helpu plant a phobl ifanc i deimlo’n well a gobeithio, i drechu rhai o’r problemau mwy newydd na fu’n rhaid i bobl fel fi eu hwynebu. Er enghraifft, mae’r rhyngrwyd a rhwydweithio cymdeithasol yn creu gwahanol heriau a phroblemau sy’n rhaid i ni fod yn ymwybodol ohonynt.
Felly, rydym yn anelu at wneud mwy nag ymyrryd pan fydd problemau’n dechrau dod yn amlwg; rydym yn anelu at fynd ati i hyrwyddo’r lles cadarnhaol hwn. A dyna pam rydym yn cefnogi gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion. Maent ym mhob ysgol uwchradd ac ar gael i ddisgyblion blwyddyn 6 hefyd. Roeddwn yn falch o glywed Jenny Rathbone yn sôn am y ffaith fod rhai ysgolion yn defnyddio’u harian Grant Amddifadedd Disgyblion yn gadarnhaol i helpu gyda chwnsela mewn ysgolion er mwyn hyrwyddo lles plant a chymuned y rhieni yn ei chyfanrwydd. Wrth gwrs, mae cyfle yn rhan Addysg Bersonol a Chymdeithasol y cwricwlwm: mae’n safonol, mae’n ddisgwyliedig, ac felly mae’n rhan o bob cwricwlwm ar gyfer disgyblion mewn ysgolion a gynhelir, ac mae’r cyfle yno i feddwl sut rydym yn hyrwyddo negeseuon yn gadarnhaol yn y maes hwn hefyd. Ond fel mater o—. Mae hwn yn fater lle rydym wedi buddsoddi £13 miliwn mewn cyllid grant dros bum mlynedd yn y maes hwn. Mae bellach yn rhan o’r Grant Cynnal Refeniw i awdurdodau lleol er mwyn gwneud yn siŵr fod yr arian hwnnw ar gael ar gyfer gwasanaeth cwnsela mewn ysgolion.
O ran rôl gwasanaethau cyhoeddus—ac unwaith eto, rwy’n falch o weld y rhain yn cael sylw yn y cynnig—fe fyddwch yn ymwybodol fod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i bob corff cyhoeddus sicrhau eu bod yn cyfrannu cymaint ag y bo modd at y nodau lles, ac mae hynny’n ymwneud ag iechyd corfforol a meddyliol a lles yn ogystal. Wrth gwrs, fe fyddwch yn gwybod bod Comisiwn y Cynulliad a chyrff cyhoeddus eraill—dros 30 o gyrff cyhoeddus—wedi llofnodi adduned sefydliadol Amser i Newid Cymru.
Rwyf am ymdrin â’r cyfeiriad at gyfraith cyflogaeth yn y cynnig, ac yma rwy’n cytuno â Dawn Bowden a adwaenwn mewn bywyd gwahanol, pan oedd ganddi swydd roedd pobl yn ei pharchu mewn undeb llafur ac roeddwn i’n gyfreithiwr, swydd nad oedd o reidrwydd yn cael ei pharchu gan bawb, ond y realiti bob amser oedd y byddai’r gyfraith yn dweud un peth, ond roedd y cyfan yn ymwneud â sut roeddech yn mynnu eich hawliau. A dweud y gwir, gyda stigma a gwahaniaethu ar sail iechyd meddwl, yr her oedd sut roeddech yn cyrraedd y pwynt lle byddech wedi datrys y materion hynny heb orfod troi at y gyfraith. Roedd hynny bron bob amser yn ymwneud â diwylliant sefydliadol a newid meddyliau cyflogwyr, oherwydd yn aml roedd y safbwynt polisi a oedd gan bob cyflogwr yn swnio’n berffaith. Yr her bob amser oedd: sut rydych yn ymdrin â hynny a sut rydych yn gwneud y newid hwnnw? Mae’r gyfraith yn rhan ohono, ond mae’r her ddiwylliannol honno’n rhan hyd yn oed yn fwy. Rwyf am ddweud wrth gyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru y byddwn yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr. Os nad yw hwnnw’n cael ei basio, byddwn yn gofyn i’r Siambr gefnogi gwelliant y Llywodraeth. Ond nid yw anghytuno gonest ynglŷn â datganoli cyfraith cyflogaeth yn golygu nad ydym yn poeni. Nid yw’n golygu nad yw hyn yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth. Yn syml, anghytundeb ydyw ynglŷn â sut rydym yn cyrraedd yno a ble y dylai’r pwerau fod.
Rwyf am orffen ar y rhan hon, oherwydd, yn y ddadl heddiw ac yn flaenorol, cafwyd cryn dipyn o gefnogaeth drawsbleidiol a chonsensws. Dyna sut y pasiwyd y Mesur iechyd meddwl yn y lle cyntaf, ac mae pob plaid yn y Siambr hon sydd wedi bod yma dros yr ychydig dymhorau diwethaf wedi haeddu canmoliaeth am y ffordd y cyflwynwyd y Mesur hwnnw a’r modd y caiff ei weithredu. Rwy’n gobeithio ein bod yn cynnal y consensws eang hwnnw, gan fod gan bob un ohonom gyfrifoldeb ar y cyd a gallu i ddylanwadu ar y ddadl hon yn gadarnhaol, felly edrychaf ymlaen at weithio gyda phobl ar draws y pleidiau i gyd, gan ein bod yn cydnabod bod llawer rydym eisoes wedi ei gyflawni, ond mae llawer mwy i’w wneud hefyd cyn y gall pob un ohonom ddweud ein bod yn hapus ac yn fodlon. Diolch yn fawr.