Part of the debate – Senedd Cymru am 5:28 pm ar 12 Hydref 2016.
Cysylltodd un o fy etholwyr yng Ngogledd Caerdydd â mi heddiw ynglŷn â’r ddadl hon—mae ganddi ddau fab gydag awtistiaeth, ac mae wedi cael anawsterau mawr yn cael diagnosis a chymorth ar ôl cael diagnosis, ac un o’r problemau oedd y cyfuniad o awtistiaeth a gorbryder eithafol. A yw’r Aelod yn cytuno bod yn rhaid mynd i’r afael â’r materion hyn, ac mai’r hyn rydym yn ei archwilio, mewn gwirionedd, yw a fyddai Bil awtistiaeth yn mynd i’r afael â’r materion hyn, neu a fyddai modd mynd i’r afael â hwy mewn ffyrdd eraill?