Part of the debate – Senedd Cymru am 5:44 pm ar 12 Hydref 2016.
Rwy’n gwerthfawrogi’r ffaith eich bod yn derbyn yr ymyriad. Hoffwn wneud y pwynt y gall person gydag anghenion dysgu ychwanegol yn hawdd wella drwy gydol eu bywyd, a gadael yr ysgol yn y pen draw heb yr angen hwnnw. Mae person ag awtistiaeth â chyflwr sy’n annhebygol iawn o newid, a dyna pam y mae angen Deddf a fydd yn edrych arnynt o’r dechrau i’r diwedd.