Part of the debate – Senedd Cymru am 5:56 pm ar 12 Hydref 2016.
Diolch yn fawr, ac rwy’n falch o gyfrannu at y ddadl hon, gan fod llawer o fy etholwyr yma heddiw. Mae’r diwrnod y mae lluniau ysgol yn dod adref yn uchafbwynt blynyddol i bob rhiant—fel y gallwch ddychmygu, rwy’n siŵr—sy’n eu rhannu gyda balchder i’w teulu fel y gall pawb gymharu’r plant â sut roeddent flwyddyn yn ôl a sylwi cymaint y maent wedi tyfu. Felly, dychmygwch lun eich plant yn dod adref gyda nodyn ‘post-it’ arno’n dweud ‘ASD’, sy’n golygu anhwylderau ar y sbectrwm awtistig. Nid oes dim o’i le ar y lluniau; dau blentyn hardd yn gwenu ar gyfer y camera, ond gyda label wedi’i gysylltu wrtho sy’n dweud bod eich ysgol yn gweld eich plant fel ‘dioddefwyr’ awtistiaeth, nid athletwyr addawol, egin arlunwyr, mathemategwyr talentog, ond plant ag awtistiaeth. Dychmygwch nad dyna oedd y tro cyntaf i hyn ddigwydd. Mewn gwirionedd, dyna’r trydydd tro, a digwyddodd i un o fy etholwyr ym Mhort Talbot wythnos yn ôl.
Mae angen i ni gychwyn o’r math hwn o brofiad, a’r sylweddoliad y gall hyd yn oed ein hysgolion fynd ati’n ddidaro i stigmateiddio’r plant y maent i fod i’w haddysgu, yna mae angen i’r Cynulliad hwn gymryd yr awenau a newid agweddau cymdeithas fel bod pobl ag awtistiaeth yn cael eu gweld yn yr un ffordd gymhleth ag y mae pawb ohonom yn gweld ein gilydd. Cyn ac ers i’r ddadl hon gael ei chyflwyno, cefais negeseuon e-bost, ac rwyf hefyd wedi cyfarfod â phobl a ddaeth i fy swyddfa’n crio am eu sefyllfaoedd. Yn ystod yr etholiad—bydd Julie James yn cofio hyn gan ei bod ar y panel gyda mi—dywedodd un fenyw yn ystod y ddadl honno—a bydd hyn bob amser yn aros gyda mi—’rwyf o dan fwy o straen yn ymladd y system nag wyf fi yn delio gyda fy mab a’i broblemau bob diwrnod o’r wythnos.’ Mewn e-bost a gefais gan rywun arall, mae’n dweud:
Ar ôl cael diagnosis yn bedair blwydd oed, dywedwyd wrthyf nad oedd posibl gwneud dim ynglŷn ag awtistiaeth. Mae hwn yn gelwydd creulon. Nid oes gwellhad, ond mae yna lawer o therapïau sy’n cael eu hanwybyddu gan wasanaethau prif ffrwd.
Dywedodd un arall, ac rwy’n dyfynnu:
Roedd ein mab yn saith. Fe wnaethom gysylltu â’n meddyg teulu, gan ein bod yn bryderus y gallai fod ar y sbectrwm. Cawsom yr ymateb, "A ydych yn sicr nad yw ond yn shit bach? Mae llawer o blant yn shits bach." Yn amlwg, gadawsom y cyfarfod hwnnw wedi ein synnu.
Mae un arall yn dweud:
Roedd ein rheolwr practis yn tybio nad oedd ond ychydig iawn o gleifion awtistig. Mewn gwirionedd, mae yna nifer debyg i nifer y cleifion dementia, ac roedd gwybodaeth am ddementia wedi’i blastro dros waliau’r ystafelloedd aros.
Yn olaf:
Rydym am iddo wireddu ei freuddwyd o fod yn yrrwr trên, ond mae cymorth i blant ag awtistiaeth yn anghyson ar y gorau. Ni ddylai ein profiad ni fod yn norm, a dyna yw ar hyn o bryd. Mae ein mab eisiau gweithio pan fydd yn oedolyn. Heb gymorth yn awr, ofnwn na fydd yn gallu gwneud hynny.
Canfu ymchwil gan y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth mai dau blentyn yn unig o bob pump sy’n cael yr holl gymorth a amlinellwyd yn eu datganiad. Felly, dylai unrhyw ddeddfwriaeth geisio mynd i’r afael â’r broblem hon hefyd. Mae Bil anghenion dysgu ychwanegol ar y ffordd, ond mae Plaid Cymru’n credu y gallai hwn fod yn brin o’r hyn sydd ei angen am nad yw’n cynnig fawr ddim cymorth, os o gwbl, i oedolion ag awtistiaeth ac nid yw’n gwahaniaethu rhwng plant â syndrom Asperger, sy’n aml yn cyflawni llawer yn academaidd, ac eraill ar y sbectrwm awtistig. Mae Plaid Cymru’n credu y dylai unrhyw ddeddfwriaeth newydd ddiogelu a hyrwyddo hawliau pobl awtistig yng Nghymru, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Felly, byddwn yn cefnogi’r cynnig hwn, fel ffordd o atgoffa Llywodraeth Cymru o’n hymrwymiad maniffesto i ddeddfu yn y maes hwn, a byddwn yn dweud bod rhaid i hynny ddod ar ffurf Bil.
Mae Lee Waters wedi gwneud llawer o ymyriadau yma heddiw, a’r hyn yr hoffwn ei ddweud wrtho yw y gallai hyn fod yn batrwm, yn dempled, ar gyfer cyflyrau eraill. Nid oes angen ei gyfyngu i awtistiaeth. Mae gennym y pwerau yma yng Nghymru i sicrhau bod deddfu’n gweithio. Os nad yw strategaethau’n cyflawni ar gyfer y bobl sydd eu hangen, mae’n ddyletswydd arnom i edrych a gweld sut y gallwn wneud y sefyllfa honno’n well iddynt ar lawr gwlad. Os oes gennym ddeddfwriaeth statudol a fydd yn dwyn pobl i gyfrif, yna bydd yn rhaid iddynt weithredu a bydd yn rhaid i ni eu dwyn i gyfrif. Felly, os gwelwch yn dda, peidiwch â’i ddiystyru yn awr cyn i ni gyrraedd y pwynt hwnnw yn y drafodaeth hyd yn oed. Fe gymeraf ymyriad.