Part of the debate – Senedd Cymru am 6:01 pm ar 12 Hydref 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn o gael y cyfle hwn heddiw i amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella bywydau plant ac oedolion sydd ag awtistiaeth a’u teuluoedd yng Nghymru. Ond cyn i mi wneud hynny, ar nodyn personol, rwyf am atgoffa’r Aelodau fy mod yn arfer gweithio yn y sector awtistiaeth cyn i mi ddod i fyd gwleidyddiaeth, felly rwy’n deall y problemau y mae pobl ag awtistiaeth, a’u teuluoedd, yn eu hwynebu, ac rwyf wedi gweithio’n agos gyda phobl sydd ag awtistiaeth ers blynyddoedd. Felly, os gwelwch yn dda, credwch fod lles pobl yr effeithir arnynt gan awtistiaeth yn agos at ein calonnau. Sut yr awn i’r afael â’r anghenion hynny yw’r mater y byddwn yn ei drafod.
Rydym wedi sefydlu ysgogiadau deddfwriaethol ac ysgogiadau polisi newydd er mwyn torri tir newydd a sicrhau datblygiadau gwirioneddol mewn perthynas â gwasanaethau a chymorth, ac mae’n rhaid i’r datblygiadau hyn gael amser a chyfle i weithio. Bydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gweddnewid y ffordd rydym yn ateb anghenion yr holl bobl sydd ag anghenion gofal a chymorth, gan gynnwys pobl ag awtistiaeth a’u gofalwyr. Mae’n gosod yr unigolyn yn y canol o ran y penderfyniadau sy’n ymwneud â’u gofal a’u cymorth, ac mae’n rhoi pŵer iddynt ddiffinio’r canlyniadau y maent am eu cyflawni. Ei hamcan yw diwallu anghenion unigolion, nid eu diagnosis. Fodd bynnag, ym mis Ebrill eleni yn unig y daeth y Ddeddf i rym, ac rydym yn derbyn adborth cynnar ardderchog gan randdeiliaid ac unigolion ac ymarferwyr, ac mae angen i ni roi’r amser i’r Ddeddf honno ymsefydlu.