Part of the debate – Senedd Cymru am 6:17 pm ar 12 Hydref 2016.
Symudwn yn awr at y ddadl fer a gyflwynwyd yn enw Joyce Watson. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny’n dawel, os gwelwch yn dda. Mae’n ddrwg gennyf, os oes Aelodau’n gadael, a allant wneud hynny’n dawel ac yn gyflym os gwelwch yn dda? Diolch. Symudwn at y ddadl fer, a gyflwynwyd gan Joyce Watson ar bwnc y mae wedi’i ddewis, ‘Ymuno â’r achos: Menywod Cymru a’r Gymanwlad—rôl Seneddwragedd y Gymanwlad yn y cyfnod ar ôl gadael yr UE’. Galwaf ar Joyce Watson i siarad ar y pwnc y mae wedi’i ddewis. Joyce.