Part of the debate – Senedd Cymru am 6:18 pm ar 12 Hydref 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gyflwyno’r pwnc hwn ar gyfer y ddadl heno, a diolch i’r Aelodau am fynegi diddordeb mewn cyfrannu at yr hyn a fydd, rwy’n siŵr, yn drafodaeth ddiddorol a gwerthfawr. Rwy’n caniatáu amser i Rhun ap Iorwerth, Rhianon Passmore, a Suzy Davies gyfrannu, ac edrychaf ymlaen at glywed ganddynt.
Yn ystod dadl ynghylch mynediad Prydain i’r Farchnad Gyffredin yn Nhŷ’r Arglwyddi yn 1962, roedd Clement Attlee yn amheus, ac rwy’n dyfynnu o’r hyn a ddywedodd:
Mae’n newid gwirioneddol eithriadol. Arferem roi’r Gymanwlad yn gyntaf. Mae’n eithaf amlwg yn awr fod y Gymanwlad yn dod yn ail. Byddwn yn ffrindiau agosach â’r Almaenwyr, yr Eidalwyr a’r Ffrancwyr nag â’r Awstraliaid neu’r Canadiaid. Mae pobl yn sôn am yr hyn a fydd yn digwydd ymhen deng mlynedd ar hugain: ond... ugain mlynedd yn ôl ni fyddwn byth wedi dychmygu y byddem yn ystyried yr Almaenwyr yn ffrindiau agosach na’r Canadiaid, yr Awstraliaid, pobl Seland Newydd, yr Indiaid neu unrhyw un arall... Mae’n... chwyldroi safbwynt hanesyddol y wlad hon yn llwyr. Nid wyf yn awgrymu bod hen bethau o reidrwydd yn iawn... Mae’n bosibl eu bod yn iawn; ond peidiwch â chamgymryd: mae hwn yn newid enfawr.
Wel, 20 mlynedd yn ôl, ni fyddwn byth wedi dychmygu y byddem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond dyma ni. Roedd gan Attlee farn hefyd ar y mecanwaith sydd wedi ein rhoi yn y sefyllfa hon—refferenda—ond nid wyf am drafod hynny i gyd eto. Felly, wrth i ni baratoi i adael yr UE rydym yn wynebu newid aruthrol arall: chwyldro arall yn safbwynt hanesyddol y wlad hon, ond mae’n rhaid i ni beidio â gadael y cyfeillgarwch ar ôl yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, a dal ein gafael ar ein lle yn y Gymanwlad. Wedi’r cyfan, yn yr un modd, y tu allan i’r UE, mae’n rhaid i ni gadw ein lle yn Ewrop.
Rwy’n sicr yn cefnogi’r safbwynt mai her fawr ein hoes yw cynnal safle Prydain a Chymru yn y byd fel gwlad agored, oddefgar ac allblyg. Roedd araith gynhenidol Amber Rudd i’r blaid Geidwadol yr wythnos diwethaf yn rhybudd yn hynny o beth. Diolch byth, mae hi wedi gwneud tro pedol ar gynlluniau i orfodi cwmnïau i ddatgelu faint o weithwyr tramor y maent yn eu cyflogi. Serch hynny, mae’n frawychus i mi fod Ysgrifennydd Cartref Prydain wedi awgrymu syniad o’r fath yn y lle cyntaf. Mae’n rhaid i Gymru herio’r ffordd chwyrn newydd hon o edrych ar y byd. Wrth gwrs, mae’n rhaid i ni weithio i siapio’r trafodaethau ar adael yr UE a’u plygu er ein lles, ond rwyf hefyd yn credu bod cyfle mawr i ni o fewn y Gymanwlad yn awr.
Ym mis Mai, cefais fy ethol gan aelodau o ranbarth Ynysoedd Prydeinig a Môr y Canoldir Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad i gynrychioli eu grŵp ar Bwyllgor Rhyngwladol Seneddwragedd y Gymanwlad—gwn ei fod yn llond ceg, ond nid oes ffordd arall o’i ddweud. Dyma’r tro cyntaf i Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru gael y swydd hon, ac mae’n anrhydedd yn wir. Fel rwy’n dweud, yn ogystal ag adfywio cyfeillgarwch yn yr UE ar ôl gadael, dylem hefyd gadarnhau ac adnewyddu cysylltiadau Cymru â’r Gymanwlad. Ond beth ydynt? Beth sydd gennym yn gyffredin? Wedi’i chreu o’r ymerodraeth, mae’r Gymanwlad heddiw yn deulu o genhedloedd. Mae Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad yn cynnwys mwy na 180 o ganghennau o ddeddfwrfeydd yn Affrica, Asia, Awstralia, rhanbarth Ynysoedd Prydeinig a Môr y Canoldir, Canada, Môr y Caribî, yr Amerig, Môr yr Iwerydd, India, y Môr Tawel, a de-ddwyrain Asia. Mae’n gyfeillgarwch byd-eang sy’n seiliedig ar werthoedd beth bynnag fo’r rhyw, hil, crefydd na diwylliant. Cawn ein huno gan ein hymrwymiad i reolaeth y gyfraith, i hawliau a rhyddid unigolion, ac i ddelfrydau democratiaeth seneddol.
Wrth gwrs, ni allwn anwybyddu’r ffaith fod rhai arferion crefyddol a diwylliannol yng ngwledydd y Gymanwlad yn gormesu ac yn gwthio rhannau o’r boblogaeth i’r cyrion, yn benodol, lleiafrifoedd a menywod, ond dyna ble y mae Seneddwragedd y Gymanwlad yn ceisio dylanwadu. Fe’i sefydlwyd gan gynrychiolwyr benywaidd ym 1989, ac mae wedi ymdrechu ers hynny i gynyddu cynrychiolaeth menywod mewn seneddau, i sicrhau bod ystyriaeth o’r rhywiau’n cael ei phrif ffrydio yn holl weithgareddau a rhaglenni Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad, i herio gwahaniaethu, a nodi a dilyn camau ymarferol i gyflawni cydraddoldeb rhwng y rhywiau ac i ddiogelu a grymuso menywod a merched. Yn 1991, ymgorfforodd y Gymanwlad yr amcanion hyn yn natganiad Harare.
Felly, dyna’r hanes yn gryno, ond beth rydym yn ei wneud? Wel, byddaf yn gweithio gyda chydweithwyr i hyrwyddo tair thema: rhoi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched, menywod mewn arweinyddiaeth, a grymuso menywod yn economaidd. Mae nodau datblygu cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig yn darparu fframwaith ar gyfer y gwaith hwnnw. Wrth edrych ar y drefn fyd-eang ar hyn o bryd, mae cynnydd wedi bod: mwy o gynrychiolaeth menywod mewn seneddau cenedlaethol, mwy o ferched wedi’u cofrestru mewn ysgolion, a newid yn hawliau menywod, ond os crafwn yr wyneb, mewn gwleidyddiaeth, ar draws y Gymanwlad, mae cynrychiolaeth seneddol i fenywod wedi aros ar yr un lefel. Ni cheir ond 22 y cant yn unig o seneddwragedd cenedlaethol. Mae gan y sefydliad hwn hanes balch o ran cydbwysedd rhwng y rhywiau, fel fy mhlaid fy hun. Ar hyn o bryd, yn ein plaid ni, mae un yn fwy na’n hanner yn fenywod, ond os edrychwn yn agos at adref, 29 y cant yn unig o Aelodau Tŷ’r Cyffredin sy’n fenywod. Fodd bynnag, cafwyd camau pwysig ymlaen yng ngwledydd y Gymanwlad dros y blynyddoedd diwethaf: cafodd y fenyw gyntaf ei hethol yn St Kitts; cyrhaeddodd Trinidad a Tobago darged o 30 y cant o ran cynrychiolaeth menywod; Prif Weinidog benywaidd cyntaf Namibia; Prif Weinidog Canada Justin Trudeau yn penodi Cabinet sy’n gytbwys rhwng y rhywiau; mae Rwanda yn parhau i arwain y byd gyda thros 60 y cant o’i Senedd yn fenywod; ac wrth gwrs, mae’r DU wedi cael ei hail Brif Weinidog benywaidd.
Ond nid yw hawl a enillwyd o reidrwydd yn hawl a fydd yn cael ei chadw. Felly, rôl Seneddwragedd y Gymanwlad yw datblygu a hyrwyddo mecanweithiau i gynnal a hybu cynrychiolaeth menywod mewn bywyd cyhoeddus. Ond nid yw hwnnw’n ben draw ynddo’i hun. Pan gawn ein hethol, rhaid i ni siapio polisi a deddfwriaeth. Yn y Cynulliad hwn, mae gan fy mhlaid, fel y dywedais, stori dda i’w hadrodd, ond ni allwn fforddio gorffwys ar ein bri. Bydd unrhyw un a fu’n ymwneud â’r rhestr fer i fenywod yn unig yn tystio pa mor galed oedd y brwydrau ac mae’n brofiad y gallwn ei rannu gyda’n cyfeillion yn rhyngwladol. Gadewch i ni beidio ag anghofio mai 9 y cant yn unig o Aelodau Seneddol benywaidd oedd gan y DU ym 1992. Mecanweithiau caled, nid rhethreg feddal sydd wedi dod â ni i’r sefyllfa hon.
Ym maes addysg, do, cafwyd gwelliant cyffredinol, eto i gyd bydd yn dal i fod dros 63 miliwn o ferched na fyddant yn yr ysgol heddiw. Yn ôl Sefydliad Addysg, Gwyddoniaeth a Diwylliant y Cenhedloedd Unedig, ni fydd 16 miliwn o ferched rhwng 6 ac 11 oed byth yn cael cyfle i ddysgu sut i ddarllen neu ysgrifennu mewn ysgol gynradd—ddwywaith y nifer o fechgyn—ac mae addysg, fel rydym i gyd yn gwybod, yn arf trawsnewidiol sy’n lleihau tlodi ac anghydraddoldeb. Ar yr un pryd, rydym yn cydnabod bod cyfranogiad economaidd ac annibyniaeth yr un mor bwysig. O ran hynny, rwy’n credu bod angen i ni edrych ar ein record ein hunain. Fe wyddom mai menywod yn y DU sy’n cael eu taro galetaf gan galedi; gwyddom y bydd safonau byw mamau sengl a gweddwon yn gostwng 20 y cant erbyn 2020 yn ôl y Grŵp Cyllideb Menywod.
Mae’n rhaid i bob cymdeithas gydnabod eu rhwystrau diwylliannol a chymdeithasol sy’n rhaid i fenywod eu hwynebu. Yn y rhanbarth o’r Gymanwlad rydym yn perthyn iddo, mae gennym gymunedau clòs—Ynysoedd y Sianel, Gibraltar, Malta, Ynys Manaw, St Helena a’r Falklands—lle mae dianc rhag trais yn anodd. Felly, gyda’n gilydd, rydym yn rhannu syniadau ynglŷn â sut i ddiogelu menywod a phlant yn yr amgylchiadau hynny. Mae Gibraltar wedi arwain y ffordd o ran hynny. Mae’n un o’r rhesymau rwyf wedi blaenoriaethu gweithio’n rhyngwladol ar ymgyrch y Rhuban Gwyn, sy’n cynnwys dynion yn y mudiad i ddod â thrais yn erbyn menywod i ben.
Yn dilyn ein trafodaeth yn Fforwm cyntaf Menywod y Gymanwlad a gynhaliwyd y llynedd yng Nghyfarfod Penaethiaid Llywodraethau’r Gymanwlad ym Malta, darganfûm mai ym Malta y mae Aelodau Seneddol gwrywaidd bellach yn cymryd rôl arweiniol yn yr ymgyrch honno. Darganfûm hefyd fod gan Sandra James, cyn-seneddwraig yn Guernsey, ymgyrch i ethol mwy o fenywod yn Guernsey ac mae’r ymgyrch honno wedi gweithio hefyd.
Yma, ddoe, bûm mewn digwyddiad NSPCC yn y Senedd, lle roeddent yn trafod eu hymgyrch ar y cyd â Bawso sy’n gweithio o fewn y gymuned Somali yng Nghaerdydd i frwydro yn erbyn anffurfio organau cenhedlu benywod, ac mae’r ymgyrch honno’n cael ei hyrwyddo gan Rebecca Kadaga, cadeirydd rhyngwladol Seneddwragedd y Gymanwlad yn Uganda. Mae hwnnw’n benderfyniad dewr iawn.
Rydym wedi gweld yr Alban yn datblygu deddfwriaeth i sicrhau gwarcheidiaethau i blant sy’n cyrraedd y wlad ar eu pen eu hunain. Mae Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad yn y DU yn arwain prosiect rhyngwladol ar drosolwg seneddol ar y nodau datblygu cynaliadwy newydd. Ychydig o enghreifftiau yn unig ydynt, a gallaf weld y cloc yn tician. Ond drwy waith rhyngwladol a thrwy ein dealltwriaeth a’n haddysg rydym yn datblygu. Rwy’n teimlo’n gryf iawn na allwn ac ni ddylwn byth leihau ein profiad rhyngwladol.
Fy natganiad diwethaf un yw ein bod ni yng Nghymru yn rhoi’r fantais honno i bobl ifanc o Gymru, ac rydym yn helpu disgyblion, drwy Senedd Ieuenctid y Gymanwlad, i gael cyfle i gynrychioli Cymru mewn digwyddiadau rhyngwladol, a digwyddodd hynny ychydig o flynyddoedd yn ôl gyda disgyblion o Ysgol Dyffryn Aman. Drwy raglen Cymru o Blaid Affrica Llywodraeth Cymru, anfonodd Coleg Sir Gâr fyfyrwyr i Uganda i helpu i adeiladu prosiectau yno. Mae’r profiadau hynny, sy’n gwneud i bobl ifanc Cymru edrych tuag allan, yn hytrach nag i mewn, yn gwbl hanfodol. Yn fy marn i, cyhyd â’n bod yn aelodau o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad, mae’n rhaid i ni wneud yn fawr ohoni a rhannu’r profiadau hynny.