Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 18 Hydref 2016.
Wel, yn syml iawn, ni fydd y metro yn gallu cael ei ddatblygu ar yr un cyflymder, a chyda'r un uchelgais ag a fyddai’n wir fel arall. Bydd metro o hyd, ond yn amlwg, os oes £125 miliwn yn llai o arian ar gael, yna bydd cyrhaeddiad y metro, a chyflymder ei ehangiad yn llai. Ond o ystyried y ffaith ein bod wedi clywed gan y rhai sy'n dymuno gadael yr Undeb Ewropeaidd y byddai pob ceiniog o arian Ewropeaidd yn cael ei gwarantu, rydym ni’n disgwyl i’r addewid hwnnw gael ei wireddu.