1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 18 Hydref 2016.
1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cyllid sydd ei angen ar gyfer Metro De Cymru? OAQ(5)0222(FM)
Amcangyfrifwyd y bydd prosiect cam 2 y metro yn £734 miliwn a bydd y gost derfynol yn cael ei nodi yn ystod trafodaethau caffael. Mae’r cyllid yn cynnwys arian cyfatebol o gronfa datblygu rhanbarthol Ewrop yr ydym ni’n disgwyl i Lywodraeth y DU ei warantu.
O ystyried ei bod yn ymddangos bod hyd yn oed Alun Cairns yn frwdfrydig am fetro de Cymru erbyn hyn, ac wedi cydnabod ei bwysigrwydd strategol o ran darparu swyddi a thwf ar gyfer holl ardal y de-ddwyrain, a ydych chi’n hyderus y bydd Llywodraeth y DU yn rhoi i ni’r arian sydd ei angen arnom i sicrhau y gallwn gyflawni'r prosiect hwn yn brydlon, ac i’r ansawdd gofynnol?
O ystyried brwdfrydedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru tuag at y metro, byddwn yn disgwyl iddo allu dangos digon o ddylanwad ymhlith ei gydweithwyr yn San Steffan i ddarparu’r cyllid gwerth £125 miliwn y byddwn yn ei golli o ganlyniad i golli cyllid Ewropeaidd.
Un peth yw brwdfrydedd, ond os nad yw’r cyllid llawn ar gyfer metro de Cymru wedi'i warantu, wedi’i warantu’n bendant, beth yw’r cynllun wrth gefn?
Wel, yn syml iawn, ni fydd y metro yn gallu cael ei ddatblygu ar yr un cyflymder, a chyda'r un uchelgais ag a fyddai’n wir fel arall. Bydd metro o hyd, ond yn amlwg, os oes £125 miliwn yn llai o arian ar gael, yna bydd cyrhaeddiad y metro, a chyflymder ei ehangiad yn llai. Ond o ystyried y ffaith ein bod wedi clywed gan y rhai sy'n dymuno gadael yr Undeb Ewropeaidd y byddai pob ceiniog o arian Ewropeaidd yn cael ei gwarantu, rydym ni’n disgwyl i’r addewid hwnnw gael ei wireddu.
Brif Weinidog, tybed a allech chi amlinellu pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU yn benodol, yn uniongyrchol â nhw, ynghylch y prosiect wrth symud ymlaen.
Ynghylch?
Ynghylch y prosiect wrth symud ymlaen.
Fel yr ydym ni wedi ei ddweud lawer gwaith wrthyn nhw, rydym ni’n disgwyl i'r arian fod ar gael. Os collir yr arian trwy golli cyllid Ewropeaidd, ar lefel swyddogol, ceir cyswllt rheolaidd iawn, iawn o ran sut y byddwn ni’n symud ymlaen, yn enwedig o gofio bod cymaint o’r ysgogiadau sy’n ofynnol i ddarparu’r metro heb eu datganoli. Felly, ceir llawer iawn o gyswllt swyddog i swyddog sy'n digwydd yn rheolaidd.
Cwestiwn syml, Brif Weinidog: pryd fydd y cam adeiladu yn cychwyn mewn gwirionedd?
Wel, wrth gwrs, ar hyn o bryd, rydym ni’n mynd drwy'r broses ymgeisio, a gorau po leiaf a ddywedir am hynny, o ystyried y ffaith fod yn rhaid iddo fynd trwy broses briodol. Unwaith y bydd y broses ymgeisio honno wedi ei chwblhau, yna rydym ni’n disgwyl gweld cam 2 yn dechrau. Mae llawer ohono’n dibynnu, wrth gwrs, ar y fasnachfraint o ran masnachfraint Cymru a'r gororau, ond cyn gynted â phosibl ar ôl i'r broses ymgeisio gael ei chwblhau.