Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 18 Hydref 2016.
Fel yr ydym ni wedi ei ddweud lawer gwaith wrthyn nhw, rydym ni’n disgwyl i'r arian fod ar gael. Os collir yr arian trwy golli cyllid Ewropeaidd, ar lefel swyddogol, ceir cyswllt rheolaidd iawn, iawn o ran sut y byddwn ni’n symud ymlaen, yn enwedig o gofio bod cymaint o’r ysgogiadau sy’n ofynnol i ddarparu’r metro heb eu datganoli. Felly, ceir llawer iawn o gyswllt swyddog i swyddog sy'n digwydd yn rheolaidd.