<p>Buddsoddi mewn Twristiaeth yng Ngogledd Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 18 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:50, 18 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Ydw. Gallaf ddweud bod Croeso Cymru wrthi'n datblygu cynigion ar gyfer llwybrau twristiaeth newydd ledled Cymru, gan gynnwys prosiect i wneud mwy i hyrwyddo atyniadau diwylliant a threftadaeth ar hyd yr A55, er mwyn, wrth gwrs, i bobl dreulio mwy o amser yn yr ardal honno. Ceir llawer ohonom ni yn y Siambr hon a fydd wedi clywed gan bobl sydd wedi dweud, 'Ydw, rwyf wedi teithio ar hyd yr A55 ar y ffordd i Iwerddon', ond nad ydynt wedi stopio. Rydym ni angen i fwy o'r bobl hynny stopio ac, wrth gwrs, mwy o bobl i wneud y gogledd yn gyrchfan iddynt yn y lle cyntaf.