<p>Buddsoddi mewn Twristiaeth yng Ngogledd Cymru</p>

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 18 Hydref 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd buddsoddi mewn twristiaeth yng ngogledd Cymru? OAQ(5)0216(FM)

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:49, 18 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Mae ein strategaeth dwristiaeth yn nodi ein blaenoriaethau o ran cefnogi'r diwydiant twristiaeth, gan gynnwys cyllid cyfalaf a datblygu, ynghyd â gweithgareddau marchnata a hyrwyddo.

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Roeddwn i mewn cyfarfod Cymdeithas Twristiaeth Sir y Fflint ddydd Gwener, lle’r oedd nifer o bobl, yn trafod gwerth yr economi ymwelwyr i’r gogledd-ddwyrain. Rwy’n croesawu ymrwymiad maniffesto Llafur Cymru a chynlluniau Ysgrifennydd y Cabinet i greu coridor diwylliant ar draws yr A55, sy'n cynnwys arwyddion newydd i nodi ein hasedau treftadaeth a thwristiaeth anhygoel yn y rhanbarth. Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno â gwerth hyn, ac a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yr arwyddion gwell?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:50, 18 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Ydw. Gallaf ddweud bod Croeso Cymru wrthi'n datblygu cynigion ar gyfer llwybrau twristiaeth newydd ledled Cymru, gan gynnwys prosiect i wneud mwy i hyrwyddo atyniadau diwylliant a threftadaeth ar hyd yr A55, er mwyn, wrth gwrs, i bobl dreulio mwy o amser yn yr ardal honno. Ceir llawer ohonom ni yn y Siambr hon a fydd wedi clywed gan bobl sydd wedi dweud, 'Ydw, rwyf wedi teithio ar hyd yr A55 ar y ffordd i Iwerddon', ond nad ydynt wedi stopio. Rydym ni angen i fwy o'r bobl hynny stopio ac, wrth gwrs, mwy o bobl i wneud y gogledd yn gyrchfan iddynt yn y lle cyntaf.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative

(Cyfieithwyd)

Mae cynrychiolwyr y sector twristiaeth yn Sir y Fflint a ledled y gogledd wedi dweud wrthyf fod angen i Lywodraeth Cymru ymateb i'r £40 miliwn a ddarparwyd gan Visit England ar gyfer marchnata twristiaeth yno, ac i gydnabod sut y mae'n bwriadu rhoi sylw i’r gronfa yno sydd eisoes yn cael ei dosbarthu. Sut, felly, ydych chi’n ymateb i'w pryder bod angen i Gymru fod yn ymwybodol o'r adnoddau cynyddol yn agos at ein ffin, fel Caer, Swydd Gaer, Swydd Amwythig, Bryste a Chaerfaddon, sydd â’r potensial i annog pobl i aros yn Lloegr ac arallgyfeirio ymwelwyr o Loegr a thramor o Gymru?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:51, 18 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Rydym ni’n ymwybodol o hynny, ond wrth gwrs, mae ein hystadegau twristiaeth yn dangos bod mwy o bobl yn ymweld â Chymru. Yn arbennig, mae mwy o bobl yn ymweld â Chymru o dramor. Mae hynny wedi bod yn eithaf sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf. Rydym ni’n marchnata Cymru ar sail blynyddoedd thema, ac felly, eleni yw Blwyddyn Antur. Gwyddom fod y sector werth £481 miliwn i economi Cymru, ac wrth gwrs, bydd y gogledd yn chwarae rhan bwysig iawn yng nghynlluniau’r Flwyddyn Antur. Rydym ni wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda busnesau er mwyn i hynny ddigwydd. Felly, er, wrth gwrs, ein bod ni’n cadw llygad ar ein cystadleuwyr, rydym ni’n gwybod, o'r ffigurau sydd gennym ni ar gyfer twristiaeth, bod Cymru wedi llwyddo i ddenu mwy a mwy o ymwelwyr.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru

Wrth gwrs, un o’r blaenoriaethau nawr yw estyn y tymor twristiaeth fel bod modd cynnig swyddi i bobl gogledd Cymru drwy gydol y flwyddyn. A allwch chi ddweud wrthym ni, efallai, beth mae eich Llywodraeth chi’n ei wneud i geisio cyflawni hynny, a sut y buasech chi’n defnyddio unrhyw adnoddau ychwanegol y gellid eu dyrannu at dwristiaeth i gyflawni hynny?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:52, 18 Hydref 2016

Mae’n rhaid cael gweithgareddau, wrth gwrs, sydd ar gael trwy’r flwyddyn. Mae Surf Snowdonia yn un enghraifft rŷm ni wedi ei gefnogi; Zip World a Bounce Below—rŷm ni wedi cefnogi’r rheini. Mae’n wir i ddweud, wrth gwrs, ei fod yn bwysig dros ben nad yw twristiaeth yn rhywbeth sy’n hollol dymhorol, o achos y ffaith y byddem wedyn yn cyrraedd sefyllfa lle nad yw pobl yn cael cyflog trwy’r flwyddyn. Trwy helpu busnesau a chefnogi busnesau fel hynny, mae’n bosib wedyn i sicrhau bod gweithgareddau ar gael ar draws y flwyddyn er mwyn tynnu pobl i mewn yn y gaeaf a hefyd yr haf.

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, a allem ni gael ychydig mwy o fanylion am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu marchnata’r gogledd fel cyrchfan wyliau, os gwelwch yn dda?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:53, 18 Hydref 2016

(Cyfieithwyd)

Mae gennym ni gynllun cymorth buddsoddi mewn twristiaeth. Mae wedi gwneud cynigion o gyllid i 42 o fusnesau yn y gogledd, sy’n gyfanswm o £7.8 miliwn. Mae wedi creu 361 o swyddi a diogelu 113 o rai eraill. Mae gennym ni, hefyd, y rhaglen cyrchfannau denu twristiaid, yn gweithio ar bedwar cynllun busnes ar gyfer y gogledd. Os edrychwch chi ar yr hyn yr ydym ni wedi ei wario dros y blynyddoedd—edrychwch ar Fae Colwyn a'r gwaith sydd wedi ei wneud yno, nid yn unig Parc Eirias, ond hefyd glan y môr ym Mae Colwyn; y buddsoddiad sylweddol a wnaed yn y Rhyl dros y blynyddoedd—dros £30 miliwn i wella glan y môr y Rhyl; mae gennym ni’r gronfa ymgysylltu twristiaeth ranbarthol ac mae honno wedi bod werth £280,000 i'r gogledd; a'r gronfa arloesedd cynnyrch twristiaeth hefyd. Ac, wrth gwrs, rydym ni wedi buddsoddi dros £1.7 miliwn mewn digwyddiadau mawr. Maen nhw’n cynnwys digwyddiadau fel cystadlaethau triathlon y Slateman a’r Sandman, Gŵyl Ymylol Llangollen, Gŵyl Rhif 6, y Tour of Britain a Rali Cymru Prydain Fawr, i enwi dim ond rhai ohonynt.